Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 18 Tachwedd a 8 Rhagfyr, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar waith gofal cartref a ailalluogi

Mwy yma

Ezelina Dacruz – Nyrs Clinigol Arweiniol

Mae Ezelina, sy’n dod o Falawi yn wreiddiol, wedi byw yng Nghymru ers 18 mlynedd, ac wedi bod yn dysgu Cymraeg fel trydedd iaith er mwyn ei helpu i wella safon y gofal y gall ei gynnig i breswylwyr.

"Ble bynnag wyt ti yn y byd, mae rhyngweithio â rhywun yn ei iaith gyntaf yn gwneud iddynt deimlo dy fod yn rhan ohonyn nhw. Mae’n creu perthynas, ac yn aml, maen nhw’n fwy agored."

“Dwi ‘di bod yn nyrs ers 23 mlynedd. Er i mi hyfforddi ym Malawi, dwi wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa yn gweithio yma yng Nghymru.

“Dwi heb fod ar gwrs Cymraeg erioed, ond dwi ‘di dysgu sut i sgwrsio yn Gymraeg gan gydweithwyr dros y blynyddoedd, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r gofal dwi’n gallu ei gynnig.

“Yn aml, ‘dan ni’n gweld preswylwyr â demensia’n troi nôl at yr iaith roedden nhw’n ei siarad pan ro’n nhw’n ifanc, felly mae gallu cyfathrebu’n Gymraeg â phreswylwyr, hyd yn oed ar lefel sylfaenol, yn bwysig iawn.

“Does dim rhaid gwybod bob dim – mae brawddegau syml yn ddigon fel “Bore da. Sut ti’n teimlo? Ti mewn poen?”. Mae ‘chydig bach yn help mawr.

“Mae’r ffordd ti’n rhyngweithio hefo preswylwyr a’u teuluoedd yn bwysig iawn. ‘Dan ni’n eu cefnogi nhw’n feddygol, yn gorfforol ac yn emosiynol tan y diwedd un. Os ydw i’n llwyddo i wneud nhw’n gyfforddus mewn amgylchedd fel hyn, mae hynny’n wych i mi.”