Neidio i'r prif gynnwys

Rheolwr Chwarae

Fel Rheolwr Chwarae, byddwch yn gyfrifol am gefnogi a hwyluso cyfleoedd i blant chwarae,

Bod yn Rheolwr chwarae

Mae Rheolwr Gweithwyr Chwarae yn ymgymryd â rôl arweiniol mewn lleoliad chwarae ac yn gyfrifol am oruchwylio darpariaeth cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i blant.

Byddwch yn arwain ar ddatblygu amgylchedd chwarae diogel, croesawgar, amrywiol a chynhwysol i blant a phobl ifanc rhwng tair ac 12 oed. Prif ffocws gwaith chwarae yw cefnogi plant i chwarae’n rhydd.

Byddwch yn cefnogi tîm o Weithwyr Chwarae ac yn arwain ar recriwtio, cyflwyno, goruchwylio, mentora ac adolygu perfformiad staff a gwirfoddolwyr. Byddwch hefyd yn sicrhau bod y lleoliad yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, polisïau diogelu, a safonau iechyd a diogelwch, yn ogystal â bod yn gyfrifol am reoli cyllidebau ac am gynrychioli’r lleoliad mewn cyfarfodydd gyda gweithwyr proffesiynol eraill.

Gwybodaeth am y gweithle

Gall eich lleoliad gwaith gynnwys amrywiaeth eang o leoliadau a byddwch yn sicrhau bod y lleoliad chwarae yn ddiogel, yn gynhwysol ac yn ysgogol, yn unol ag Egwyddorion Gwaith Chwarae a hawliau plant. Byddwch hefyd yn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol, polisïau diogelu, a safonau iechyd a diogelwch.

Galluogi plant i archwilio drwy chwarae, a rhoi lle diogel iddyn nhw wneud hynny.

Dechrau arni fel Rheolwr chwarae

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen i chi feddu ar:

• sgiliau arwain a rheoli tîm
• dealltwriaeth o sut i ddarparu amrywiaeth o ofodau chwarae sy’n meithrin mynediad plant at chwarae a ddewisir yn rhydd
• sgiliau cyfathrebu effeithiol
• y gallu i adeiladu perthnasoedd da
• sgiliau cyllidebu a sicrhau cyllid
• sylw i fanylion a’r gallu i gwblhau unrhyw ddogfennaeth angenrheidiol.

Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae a’r safonau galwedigaethol cenedlaethol yn helpu i egluro’r rolau a’r cyfrifoldebau.

Cymwysterau gofynnol

I reoli lleoliad sy’n seiliedig ar chwarae, bydd angen i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 perthnasol mewn Gwaith Chwarae.

Darganfyddwch y cymwysterau gofynnol neu argymelledig ar gyfer y rôl hon gyda PETC Cymru.

Os yw’r lleoliad wedi’i gofrestru fel Gofal Dydd Llawn ac yn darparu ar gyfer plant o dan 5 oed, bydd angen i chi hefyd feddu ar gymhwyster Lefel 3 perthnasol mewn Gofal Plant.

Hyfforddiant

Efallai yr hoffech ystyried y rhaglen Cyflwyniad i ofal plant sy'n cwmpasu'r hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal plant.

I gael gwybod am gyfleoedd hyfforddi ychwanegol mewn gwaith chwarae, cysylltwch â Chwarae Cymru a Clybiau Plant Cymru Kids Clybs.

Chwarae Cymru

Chwarae Cymru yw'r elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant. Mae'n darparu cymorth, cyngor ac arweiniad ar hyfforddiant gwaith chwarae a chymwysterau mewn ystod eang o leoliadau.

Clybiau Plant Cymru

Llais Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru.

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.