Rheolwr Gofal Dydd
Fel rheolwr, byddwch yn gyfrifol am ansawdd, darpariaeth a chynaliadwyedd cyffredinol eich lleoliad.
Tracey's Story
Bod yn Rheolwr Gofal Dydd
Mae’r rôl yn cynnwys gweithio gyda’ch tîm, plant a theuluoedd i greu awyrgylch diogel, cynhwysol ac o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion y plant sy’n dod i’r lleoliad.
Byddwch yn gyfrifol am redeg y lleoliad o ddydd i ddydd, gan roi arweiniad, goruchwyliaeth a chymorth i’r staff. Byddwch hefyd yn recriwtio ac yn darparu hyfforddiant parhaus i staff ac yn cynnal cyllidebau meithrinfeydd.
Gwybodaeth am y gweithle
Mae meithrinfeydd dydd a meithrinfeydd yn darparu gwasanaeth hanfodol i rieni sy’n gweithio, drwy gynnig gofal plant o’u geni. Defnyddir y termau meithrinfa ddydd, gofal dydd a meithrinfa yn gyfnewidiol i ddisgrifio’r man lle mae rhieni’n anfon eu plant i gael gofal yn ystod oriau gwaith.
Dechrau arni fel Rheolwr Gofal Dydd
I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:
- sgiliau arwain a rheoli
- natur ofalgar ac amyneddgar
- sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
- y gallu i feithrin perthnasoedd da
- dychymyg a chreadigrwydd
- gallu addasu i sefyllfaoedd sy’n newid
- gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael ei gynnwys
- hyder wrth ddelio â phlant ac oedolion
- sgiliau cynllunio a chyllidebu
- gallu gweithio mewn partneriaeth
- gallu cadw at y safonau a’r rheoliadau gofynnol
- rhoi sylw i fanylion a’r gallu i gwblhau unrhyw ddogfennau sy’n angenrheidiol
Cymwysterau Gofynnol
Gallwch ddod o hyd i’r cymwysterau sydd eu hangen neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y rôl hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.