Neidio i'r prif gynnwys

Ymarferydd Gofal Dydd Cynorthwyo

Fel Ymarferydd Cynorthwyol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd i blant mewn rôl sydd ddim yn cael ei goruchwylio.

Bod yn Ymarferydd Gofal Dydd

Drwy weithio mewn tîm, byddwch yn helpu i greu awyrgylch diogel, croesawgar a chynhwysol i blant, a hynny er mwyn cefnogi eu gofal, eu chwarae, eu dysgu a’u datblygiad. Byddwch yn cynorthwyo gweithgareddau addysgol i gefnogi eu dysgu parhaus.

Byddwch yn darparu gofal fel bwydo, newid clytiau, a gosod trefn reolaidd. Byddwch yn annog plant i gymdeithasu, ac yn eu helpu i ddarganfod diddordebau newydd. Byddwch hefyd yn paratoi plant i ymuno â’r lefel nesaf o ofal yn yr ysgol.

Gwybodaeth am y gweithle

Mae meithrinfeydd dydd a meithrinfeydd yn darparu gwasanaeth hanfodol i rieni sy’n gweithio, drwy gynnig gofal plant o’u geni. Defnyddir y termau meithrinfa ddydd, gofal dydd a meithrinfa yn gyfnewidiol i ddisgrifio’r man lle mae rhieni’n anfon eu plant i gael gofal yn ystod oriau gwaith.

Dechrau arni fel Ymarferydd Gofal Dydd

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • natur ofalgar ac amyneddgar
  • sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
  • dychymyg a chreadigrwydd
  • gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael ei gynnwys
  • gallu derbyn cyfarwyddyd gan aelodau eraill o staff
  • hyder wrth ddelio â phlant ac oedolion.

Efallai yr hoffech chi ystyried y rhaglen Cyflwyniad i ofal plant sy’n ymdrin â’r hanfodion sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau gweithio ym maes gofal plant.

Cymwysterau Gofynnol

Gallwch ddod o hyd i’r cymwysterau sydd eu hangen neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y rôl hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.