Neidio i'r prif gynnwys

Dod yn Llysgennad

Os ydych chi'n rhywun sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant ac eisiau rhannu eich angerdd am ofal, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Our ambassador laughing

Fel llysgennad gallwch hyrwyddo'r bobl sy'n gweithio yn ein sector gan annog eraill i ystyried gyrfa ym maes gofal.

Fel llysgennad gallwch hyrwyddo'r bobl sy'n gweithio yn ein sector gan annog eraill i ystyried gyrfa ym maes gofal.

P'un a yw'n ysbrydoli’r rhai sy’n gadael ysgol i ystyried posibiliadau gyrfa ym maes gofal neu fynd i ffeiriau swydd, gallwch ein helpu i drawsnewid dyfodol gofal.

Gall hyn gynnwys:

  • cyflwyniadau i ysgolion neu fyfyrwyr coleg
  • trafodaethau neu sgyrsiau anffurfiol
  • mynychu ffeiriau, digwyddiadau neu gynadleddau gyrfa neu swyddi.
Rwy'n cael rhannu fy angerdd i hyrwyddo'r sector a hefyd helpu pobl nad ydyn nhw efallai'n gwybod pa rolau sydd ar gael ac i ba faes maen nhw am fynd.
Rachel Williams

Gall llysgennad fod ar unrhyw lefel gyrfa ond bydd angen bod yn ymroddedig, yn hyderus ac yn gyfathrebwr gwych.

  • mae’r rôl yn hollol wirfoddol
  • byddwch yn cael cynrychiolydd rhanbarthol i helpu i'ch cefnogi a'ch arwain
  • byddwch yn cael llwyfan a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i rannu eich angerdd gyda phobl newydd
  • yn ogystal â datblygu eich sgiliau a'ch hyder, gallwch hybu eich datblygiad proffesiynol ymhellach, gan roi rhywbeth yn ôl i sector rydych yn angerddol amdano
  • byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Dod yn Llysgennad