Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 7 Hydref a 25 Hydref, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar rôl y Gweithiwr Cymdeithasol.

Mwy yma

Gofal cymdeithasol

14 Hydref 2024

Stori Ruby

Ruby sat on a bench outside with her laptop smiling in conversation with her care user

Gwnewch wahaniaeth cadarnhaol i deuluoedd yng Nghymru gyda gwaith cymdeithasol

Mae Gofalwn Cymru yn helpu unigolion a gweithwyr proffesiynol i gymryd eu cam nesaf yn eu gyrfa mewn gofal - p'un a oes gennych gefndir mewn gofal yn barod, yn newydd gymhwyso ac yn chwilio am swydd, neu'n edrych i newid gyrfa yn gyfan gwbl.

Mae yna nifer o ffyrdd i mewn i ofal cymdeithasol gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli, lleoliadau gwaith a phrentisiaethau.

Dyma Ruby

Yn ddiweddar, cwblhaodd Ruby Brentisiaeth Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr. Cymhwyster sy'n anelu at ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr ymddygiad a'r sgiliau sy'n sail i rôl ymarferwr gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Ruby, Cynghorydd Personol ymroddedig yn Sir Gaerfyrddin, yn rhannu ei thaith ysbrydoledig o gefnogi plant ac oedolion ifanc sydd wedi cael dechrau anodd mewn bywyd gan eu helpu i ymdopi â heriau a pharatoi ar gyfer bod yn oedolion.

Gyda chefndir mewn seicoleg a phrofiad mewn cartrefi preswyl plant, mae hi bellach yn gweithio gydag unigolion 16-25 oed, gan ddarparu sgiliau bywyd hanfodol a chymorth wedi'u teilwra i anghenion pob person.

Mae Ruby yn siarad am y cymhwyster ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol a’i nod yw datblygu ei gyrfa mewn gwaith cymdeithasol ac annog eraill i ystyried gyrfa mewn gwaith cymdeithasol a chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Buom yn dal i fyny gyda Ruby yn ddiweddar ers iddi gwblhau’r Brentisiaeth Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae’n gobeithio parhau â’i hastudiaethau a dilyn gradd mewn gwaith cymdeithasol i ddod yn weithiwr cymdeithasol yn y dyfodol.

“Ewch amdani os ydych chi am gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl”
Ruby
Ruby and her care user walking in a park

Y Brentisiaeth Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Roedd Ruby yn rhan o’r garfan gyntaf ac roedd yn un o naw dysgwr a gyflawnodd y cymhwyster lefel 4 hwn. Caiff dysgwyr y cyfle i ddefnyddio'r cwrs fel platfform i symud ymlaen i ail flwyddyn y radd Gwaith Cymdeithasol gyda'r Brifysgol Agored. Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr newydd gofrestru ei drydedd garfan gydag 20 o ddysgwyr yn dechrau ar eu taith ddysgu.

Mae'r recriwtio'n cael ei wneud trwy awdurdodau lleol gydag ymgeiswyr yn cyflwyno datganiad personol yn nodi sut a pham mae'r cymhwyster hwn yn addas iddyn nhw.

Mae cymwysterau prentisiaeth yn gymysgedd o ddysgu a phrofiad yn y gwaith, a sgiliau cyfathrebu a rhifedd. Mae prentisiaeth fel arfer yn cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd i’w chwblhau.

Mae prentisiaethau yn ddechrau gwych wrth adeiladu eich gyrfa mewn gofal.

Cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Dechreuwch eich gyrfa mewn gofal

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth? Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan daith Ruby? Os hoffech archwilio gyrfa mewn gofal efallai y bydd y dolenni hyn o ddiddordeb i chi:

Blas ar: Gwaith cymdeithasol

Gweminar am ddim ar 22 Hydref rhwng 1:30pm a 2:30pm i bobl sy'n byw yng Nghymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut i fynd i mewn i waith cymdeithasol.

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.