Cydlynydd Gweithgareddau
Fel Cydlynydd Gweithgareddau Cartref Gofal, byddwch chi’n gyfrifol am greu rhaglen o weithgareddau ar gyfer y preswylwyr yn y cartref gofal.
Bod yn Gydlynydd Gweithgareddau
Byddwch chi’n treulio amser yn dod i adnabod y preswylwyr a’u teuluoedd i’ch galluogi chi i lunio rhaglen weithgareddau wedi’i theilwra. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi lles, annibyniaeth ac ymgysylltiad cymdeithasol y preswylwyr a bydd yn cynnwys gweithgareddau grŵp ynghyd â diddordebau a hobïau unigol.
Gwybodaeth am y gweithle
Mae cartrefi gofal preswyl yn cynnig amgylchedd cartrefol a chroesawgar i bobl lle gallan nhw gael y gofal a’r cymorth ychwanegol hwnnw, sydd eu hangen arnyn nhw.
Stori Hannah
Dechrau arni fel Cydlynydd Gweithgareddau
I lwyddo yn y swydd hon, bydd angen y rhinweddau canlynol arnoch chi:
- sgiliau trefnu
- creadigrwydd a hyblygrwydd
- gallu rhoi sylw trylwyr i fanylion
- sgiliau cyfathrebu da
- sgiliau rhwydweithio da
- y gallu i weithio’n dda mewn tîm
- y gallu i feddwl yn greadigol.
Efallai yr hoffech chi ystyried y rhaglen Cyflwyniad i ofal cymdeithasol (link to ISC page under training programmes page) sy’n ymdrin â’r hanfodion sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Cymwysterau Gofynnol
Dewch o hyd i’r cymwysterau gofynnol neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y swydd hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.