Neidio i'r prif gynnwys

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 

Fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwch yn gyfrifol am y gwasanaeth, gan ddarparu arweiniad a chyfarwyddyd strategol. Byddwch yn sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i blant, teuluoedd a phobl hŷn.

Bod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 

Chi fydd llefarydd y sefydliad ar bob mater sy’n ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwch yn meithrin cysylltiadau effeithiol gyda’r wasg, gwleidyddion, asiantaethau a sefydliadau.

Byddwch yn gweithio gyda Phenaethiaid Gwasanaeth, gan sicrhau bod trefniadau diogelu effeithiol ar waith, a byddwch yn comisiynu, datblygu a darparu gwasanaethau a fydd yn gwella canlyniadau i bobl sydd angen gofal a chymorth. Byddwch yn ystyried goblygiadau eich penderfyniadau strategol a gweithredol ar adnoddau dynol ac ariannol.

Byddwch yn rhoi arweiniad, canllawiau a chymorth i staff, gan ddatblygu hyder a chydnerthedd. Byddwch yn sicrhau bod staff yn glynu wrth bolisïau, deddfwriaeth a rheoliadau

Cyfrifoldebau’r  Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • dealltwriaeth fanwl o’r gofynion statudol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru
  • gwybodaeth gyflawn am ddeddfwriaeth berthnasol
  • sgiliau arwain a rheoli cryf ac effeithiol
  • canolbwyntio ar gyflawni a rheoli perfformiad
  • sgiliau rheoli newid
  • sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
  • ymagwedd hyblyg at waith
  • y gallu i gydymdeimlo a chydbwyso gwahanol safbwyntiau proffesiynol
  • y gallu i fod yn greadigol a datrys problemau
  • y gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol a datblygu cysylltiad
  • y gallu i rymuso timau ac unigolion
  • dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • y gallu i addasu i amgylchiadau sy’n newid
  • cydnerthedd a’r gallu i ddelio â sefyllfaoedd anodd
  • y gallu i feddwl yn feirniadol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu da
  • llythrennedd cyfrifiadurol.

Cymwysterau Gofynnol 

Gallwch ddod o hyd i’r cymwysterau gofynnol neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y rôl hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.