Neidio i'r prif gynnwys

Ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol

Fel Ymarferydd gwasanaethau cymdeithasoll byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill i hyrwyddo canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y person ar gyfer unigolion sydd ag anghenion gofal a chymorth ac mewn cymunedau.

Bod yn Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r rôl hon hefyd yn cael ei galw yn Cynorthwyydd Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwch yn ymwneud â rhannu gwybodaeth a chyngor ag unigolion drwy gydol eu hasesiad, y gwaith cynllunio, y gwaith o ddarparu gwasanaethau neu gymorth a’r camau i adolygu’r gwaith.

Gwybodaeth am y gweithle

Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl a chymunedau sydd angen gofal a chymorth. Byddwch yn cael eich neilltuo i dîm, gan weithio gyda; phobl hŷn, pobl ag anableddau neu broblemau iechyd meddwl, plant a’u teuluoedd neu ofalwyr. Gall y rôl hon gynnwys gweithio gydag unigolion yn eu cartrefi eu hunain, canolfannau dydd, cartrefi preswyl, ysgolion, ysbytai a sefydliadau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol eraill.

Cychwyn arni fel Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
  • bod yn wrandäwr astud
  • agwedd hyblyg at waith
  • y gallu i ddangos empathi
  • y gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol a datblygu cysylltiad
  • y gallu i fod yn greadigol a datrys problemau
  • natur ystyriol, ofalgar ac amyneddgar
  • agwedd anfeirniadol
  • cydnerthedd a’r gallu i ddelio â sefyllfaoedd anodd
  • sgiliau rheoli amser a gweinyddol da
  • llythrennedd cyfrifiadurol

Efallai yr hoffech chi ystyried y rhaglen Cyflwyniad i ofal cymdeithasol sy’n rhoi sylw i’r hanfodion sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Cymwysterau Gofynnol

Gallwch ddod o hyd i’r cymwysterau gofynnol neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y rôl hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ewch i Gofal Cymdeithasol Cymru 

Fydd ddim angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.