Neidio i'r prif gynnwys

Cysylltu Bywydau

Mae Cysylltu Bywydau yn cynnig sefydlogrwydd a sicrwydd er mwyn i bobl fyw eu bywyd gorau. Ond beth mae’n ei olygu, a phwy mae’n ei helpu? Mae’r dudalen hon yn rhoi cyflwyniad clir i wasanaethau Cysylltu Bywydau yng Nghymru. Hefyd, mae gennym gyngor i unrhyw un sy’n dymuno dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau.

Janet, shared lives carer with Gareth & Medwyn

Ynglŷn â Bywydau a Rennir

Mae Cysylltu Bywydau ar gyfer pobl 18+ oed sydd am fyw’n annibynnol, gyda chefnogaeth ychwanegol rhwydwaith teulu a chymuned. Mae’n ddewis amgen i fyw mewn llety â chymorth neu ofal preswyl.

Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn rhoi cymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain am ddiwrnod yr wythnos, neu am ychydig ddyddiau ar y tro, ac mae eraill yn darparu gofal a chymorth hirdymor, ac yn byw yn yr un lle â’r unigolyn sydd angen cymorth. Mae’n debyg i faethu – i oedolion. Maen nhw’n rhannu bywyd teuluol gyda pherson sydd angen cymorth i fyw’n dda. Gyda’i gilydd, maen nhw’n helpu i ddatblygu cymunedau iach sydd wedi’u cysylltu ac yn hyrwyddo lles.

Maen nhw'n cael eu paru'n ofalus gyda pherson sy'n ceisio cael cyfle i Cysylltu Bywydau. Diddordebau a rennir, ffyrdd o fyw, yr un hiwmor yw rhai o bethau sy'n cael eu hystyried er mwyn sicrhau'r cywedd.

Pwy sy’n cael cymorth gan Cysylltu Bywydau?

Mae Cysylltu Bywydau yn darparu cefnogaeth i bobl sydd â:

  • anableddau dysgu
  • anableddau corfforol
  • pobl sy’n byw gyda dementia
  • salwch meddwl
  • pobl sydd angen dod allan o’r ysbyty
  • pobl ifanc sy’n pontio o ofal maeth
  • pobl hŷn
  • rhieni a babanod ar gyfer rhieni newydd ag anableddau dysgu.

Pwy all ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau?

Nid oes angen profiad gofalu. Y cyfan sydd ei angen yw amser, ymrwymiad a'r awydd i helpu rhywun i gael y gorau o fywyd.

Byddwch yn cael gweld y gwahaniaeth anhygoel y gall Cysylltu Bywydau ei wneud, wrth wylio person yn magu hyder, ennill mwy o annibyniaeth, dysgu sgiliau newydd a phrofi ymdeimlad o berthyn am y tro cyntaf yn ei fywyd.

Sut ydw i’n dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau?

Wrth wneud cais i fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau, byddwch yn mynd drwy broses gymeradwyo. Unwaith y byddan nhw wedi’u cymeradwyo, caiff gofalwyr Cysylltu Bywydau eu hyfforddi a dod yn aelodau o Cysylltu Bywydau Plws sy’n darparu cefnogaeth ac arweiniad.

Mae gofalwr Cysylltu Bywydau yn cael ei baru’n ofalus â pherson sy’n chwilio am gyfle Cysylltu Bywydau. Diddordebau yn gyffredin, ffordd debyg o fyw a synnwyr digrifwch - dim ond rhai o’r pethau sy’n cael eu hystyried wrth geisio paru’n gywir.

Dewch o hyd i'ch Gwasanaeth Cysylltu Bywydau lleol yng Nghymru

Dewch o hyd i'ch gwasanaeth Cysylltu Bywydau yng Nghymru.

Mae rhai o'r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw adnoddau allanol.

Mae Cysylltu Bywydau Gwynedd a Môn yn credu y dylai pobl allu dilyn y bywydau maent am eu dilyn, tra eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt yn y cartref o’u dewis hwy.

Mae pobl PSS (Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam) yn dod o cefndiroedd gwahanol, o bersonoliaethau, profiadau a mewnwelediad gwych sy'n rhoi'r diwylliant cynnes, agored a chyfeillgar i ni.

Rydym am i bobl fod mor annibynnol â phosibl. Y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth sy'n penderfynu pa ganlyniadau maent yn eu dymuno mewn bywyd.

Mae Cysylltu Bywydau yn ymwneud â pherthnasoedd, helpu pobl i dyfu a chynnal hyder, gwneud ffrindiau newydd, neu ddysgu sgiliau newydd. Mae'n ffordd iddyn nhw ffynnu fel person - ac i chi ddod â'ch hunan cyfan i'r rôl.

Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Rhonddfa Cynon Taf a Chaerdydd. Mae Ategi wedi bod yn cefnogi ac yn grymuso pobl trwy ein gwasanaethau i gyflawni newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau ers bron i 30 mlynedd.

Does dim angen unrhyw gymwysterau na phrofiad o weithio yn y sector gofal (er gall helpu). Y cyfan sydd ei angen arnoch yw'r gwerthoedd cywir, ymroddiad a ‘stafell sbâr. Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion neu gyplau.

Rydym yn cynnig lleoliadau yn y chwe ardal awdurdod lleol sef Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Mae bod yn ofalydd rhannu bywydau yn waith sy’n rhoi boddhad. Mae ein gofalyddion yn helpu pobl i fyw bywydau llawn a chadarnhaol.