Neidio i'r prif gynnwys

Gofalwr Maeth Tymor Byr

Fel gofalwr maeth tymor byr, byddwch yn darparu gofal i’r plentyn ac yn gweithio gyda’r tîm maethu ar y daith tuag at sicrhau’r cynllun ‘sefydlogrwydd’ tymor hir ar gyfer y plentyn neu’r unigolyn ifanc.

Bod yn Ofalwr Maeth Tymor Byr

Ym maes maethu, gall tymor byr olygu diwrnod, mis neu flwyddyn. Mae’n golygu bod y cynlluniau ar gyfer plentyn yn dal i gael eu hystyried. Mae hyn yn golygu bod yno bob amser i helpu plentyn neu unigolyn ifanc pan fydd eich angen chi arno, a’i helpu i symud ymlaen hefyd; at ei deulu, at deulu maeth arall neu i gael ei fabwysiadu.

Gwybodaeth am y gweithle

Bydd gofalwyr maeth yn gweithio gartref, gyda chefnogaeth tîm yn y swyddfa yn eu hawdurdod lleol neu asiantaeth faethu. Bydd gweithwyr cymdeithasol sy’n goruchwylio yn eich arwain ac yn nodi anghenion cymorth a chyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu sy’n briodol i’r plant dan eich gofal.

Cymwysterau Gofynnol

Nid oes angen cymwysterau.

I fod yn ofalwr maeth, byddwch yn cael eich asesu gan weithiwr cymdeithasol a’ch cymeradwyo fel gofalwr maeth gyda’ch awdurdod lleol neu asiantaeth faethu.

Dechrau arni fel Gofalwr Maeth Tymor Byr

Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Maent yn rhan o’ch cymuned leol, wrth law gyda chefnogaeth ac arweiniad lleol ac arbenigol.

Maent yn:

  • cadw plant yn lleol lle bynnag y bo modd
  • yn un tîm
  • nid er elw.

Dewch o hyd i’ch tîm Maethu Cymru lleol

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.