Neidio i'r prif gynnwys

Gofalwr Maeth i Blant a Rhieni

Fel gofalwr maeth plant a rhieni, byddwch yn rhannu eich sgiliau magu plant â rhiant y plentyn.

Bod yn ofalwr maeth plant a rhieni

Mae maethu plentyn a rhiant yn gydbwysedd sensitif rhwng asesu sgiliau’r rhiant, a chynnig amgylchedd meithringar iddynt fod y rhieni gorau y gallant fod.

Yn aml yn croesawu rhiant heb gefnogaeth deuluol arall, sgiliau rhieni cyfyngedig neu sydd â pherthynas heriol â phartner, bydd gofalwyr maeth yn gweithio’n agos gyda gweithwyr cymdeithasol i gefnogi a nodi unrhyw bryder am ddiogelwch y plentyn.

Mae hwn yn drefniant tymor byr (wedi ei gyfyngu i 12 wythnos fel arfer) ac yn aml bydd gofyn darparu tystiolaeth ar gyfer achosion llys, helpu rhieni i feithrin y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt, a sicrhau bod anghenion y plentyn neu’r baban yn cael eu diwallu.

Gwybodaeth am y gweithle

Bydd gofalwyr maeth yn gweithio gartref, gyda chefnogaeth tîm yn y swyddfa yn eu hawdurdod lleol neu asiantaeth faethu.

Beth yw'r peth gorau am fod yn ofalwr maeth?

I weld nhw'n datblygu, i fwynhau ei cwmni, gweithio gyda nhw a bod ar eu hochr nhw.
Sandra, Gofalwyr maeth

Cymwysterau Gofynnol

Nid oes angen cymwysterau.

I fod yn ofalwr maeth, byddwch yn cael eich asesu gan weithiwr cymdeithasol a’ch cymeradwyo fel gofalwr maeth gyda’ch awdurdod lleol neu asiantaeth faethu.

Dechrau arni fel Gofalwr Maeth Tymor Byr

Mae Maethu Cymru yn gydweithrediad - yn rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Maent yn rhan o’ch cymuned leol, wrth law gyda chefnogaeth ac arweiniad lleol ac arbenigol.

Maent yn:

  • cadw plant yn lleol lle bynnag y bo modd.
  • yn un tîm
  • nid er elw

Dewch o hyd i’ch tîm Maethu Cymru lleol

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.