Neidio i'r prif gynnwys

Gofalwr Maeth Therapiwtig

Fel gofalwr maeth therapiwtig, byddwch yn cefnogi ymddygiad a datblygiad y plentyn.

Bod yn Ofalwr Maeth Tymor Byr

Weithiau, mae angen lefel wahanol o ofal ar blant sydd ag anghenion mwy cymhleth, a dyna lle mae lleoliadau therapiwtig yn gallu helpu.

Fel gofalwr therapiwtig, byddwch chi a’r plentyn yn cael cymorth ychwanegol a byddwch yn gweithio gyda thîm therapiwtig i ddeall a chefnogi ymddygiad a datblygiad y plentyn.

Gwybodaeth am y gweithle

Bydd gofalwyr maeth yn gweithio gartref, gyda chefnogaeth tîm yn y swyddfa yn eu hawdurdod lleol neu asiantaeth faethu. Bydd gweithwyr cymdeithasol sy’n goruchwylio yn eich arwain ac yn nodi anghenion cymorth a chyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu sy’n briodol i’r plant dan eich gofal.

Cymwysterau Gofynnol

Nid oes angen cymwysterau.

I fod yn ofalwr maeth, byddwch yn cael eich asesu gan weithiwr cymdeithasol a’ch cymeradwyo fel gofalwr maeth gyda’ch awdurdod lleol neu asiantaeth faethu.

Dechrau arni fel Gofalwr Maeth Tymor Byr

Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Maent yn rhan o’ch cymuned leol, wrth law gyda chefnogaeth ac arweiniad lleol ac arbenigol.

Maent yn:

  • cadw plant yn lleol lle bynnag y bo modd
  • yn un tîm
  • nid er elw.

Dewch o hyd i’ch tîm Maethu Cymru lleol

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.