Neidio i'r prif gynnwys

Swyddog Recriwtio Maethu

Fel Swyddog Recriwtio Maethu, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer darpar ofalwr maeth.

Bod yn Swyddog Recriwtio Maethu

Chi fydd yn gyfrifol am arwain ymgeiswyr o’u hymholiad cyntaf am faethu hyd at hyfforddiant a chymeradwyaeth fel gofalwyr maeth. Byddwch yn rhoi cyngor am y broses o ddod yn ofalwr maeth ac yn aml yn ateb cwestiynau am faethu.

Bydd y rôl hefyd yn cynnwys trefnu digwyddiadau a gweithgareddau i helpu i hyrwyddo’r angen am ofalwyr maeth yn y gymuned leol.

Gwybodaeth am y gweithle

Mae hon yn rôl â thâl lle byddwch yn gweithio yn y gwasanaeth maethu.

Yng Nghymru, rhaid i wasanaethau maethu fod wedi eu cofrestru gydag  Arolygiaeth Gofal Cymru, sy’n cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd gwasanaethau gofal ledled Cymru.

Dechrau arni fel Swyddog Recriwtio Maethu

Bydd angen sgiliau pobl da arnoch, agwedd allblyg a brwdfrydig a phrofiad o ddilyn prosesau.

Cymwysterau Gofynnol

Nid oes angen cymwysterau.

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.