Neidio i'r prif gynnwys

Gweithiwr Cymorth Maethu

Mae gweithiwr cymorth maethu yn darparu arweiniad a chymorth ymarferol i ofalwyr maeth, gan gynnwys gofalwyr perthynol a chyffredinol, fel rhan o ymrwymiad ehangach y tîm maethu i sicrhau gofal o ansawdd uchel i blant.

Bod yn Weithiwr Cymorth Maethu

Byddwch yn gweithredu fel eiriolwr ar ran y gofalwyr maeth yn y tîm gwaith cymdeithasol ehangach. Byddwch hefyd yn eu tywys drwy eu haddysg a’u datblygiad, eu cymorth emosiynol a’u cefnogi drwy eu goruchwyliaeth reolaidd, yn debyg i rôl y gweithiwr cymdeithasol sy’n eu goruchwylio, heb gyfrifoldebau asesu ac adolygu.

Gwybodaeth am y gweithle

Mae hon yn rôl â thâl lle byddwch yn gweithio yn y gwasanaeth maethu.

Yng Nghymru, rhaid i wasanaethau maethu fod wedi eu cofrestru gydag  Arolygiaeth Gofal Cymru, sy’n cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd gwasanaethau gofal ledled Cymru.

Dechrau arni fel Gweithiwr Cymorth Maethu

Bydd arnoch angen sgiliau goruchwylio, ysgrifennu a chofnodi adroddiadau’n gywir, rheoli amser, trwydded yrru lawn a hyblygrwydd o ran oriau gwaith.

Cymwysterau Gofynnol

Nid oes angen cymwysterau.

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.