Gofalwr Maeth Tymor Hir
Fel gofalwr maeth tymor hir, byddwch yn cael eich paru â’r plentyn maeth iawn am gyhyd ag y bydd ei angen arnynt.
Bod yn Ofalwr Maeth Tymor Byr
I blant nad ydynt yn gallu byw gartref, mae gofal maeth tymor hir yn cynrychioli diogelwch a bywyd teuluol sefydlog i’r plentyn, yn aml tan y byddant yn oedolion.
Mae gofal maeth tymor hir yn golygu dod â’r plentyn maeth priodol at y gofalwr maeth priodol am gyhyd ag y bydd ei angen - fel arfer, nes bydd yr unigolyn ifanc yn troi’n 18 oed, neu’n aml tan y bydd yn 21 oed dan drefniant gwahanol o’r enw ‘Pan Fydda i’n Barod’.
Gwybodaeth am y gweithle
Bydd gofalwyr maeth yn gweithio gartref, gyda chefnogaeth tîm yn y swyddfa yn eu hawdurdod lleol neu asiantaeth faethu.
Cymwysterau Gofynnol
Nid oes angen cymwysterau.
I fod yn ofalwr maeth, byddwch yn cael eich asesu gan weithiwr cymdeithasol a’ch cymeradwyo fel gofalwr maeth gyda’ch awdurdod lleol neu asiantaeth faethu.
Dechrau arni fel Gofalwr Maeth Tymor Byr
Mae Maethu Cymru
yn gydweithrediad – yn rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu’r 22 o Awdurdodau Lleol sydd yng Nghymru.
Maent yn rhan o’ch cymuned leol, wrth law gyda chefnogaeth ac arweiniad lleol ac arbenigol.
Maent yn:
- cadw plant yn lleol lle bynnag y bo modd.
- yn un tîm
- nid er elw