Gweithiwr Cartref Gofal i Oedolion
Fel Gweithiwr Cartref Gofal, byddwch chi’n darparu gofal a chymorth i breswylwyr, ac yn eu helpu hefyd i gadw eu hannibyniaeth ac i wneud dewisiadau.
Bod yn Weithiwr Cartref Gofal
Byddwch chi’n gweithio mewn tîm gyda gweithwyr gofal proffesiynol eraill, byddwch chi’n cefnogi’r preswylwyr i roi cynllun gofal ar waith sy’n addas i’w hanghenion a’u dewisiadau diwylliannol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol personol.
Gallwch chi hefyd symud ymlaen i fod yn Uwch Weithiwr Cartref Gofal.
Gwybodaeth am y gweithle
Mae cartrefi gofal preswyl yn cynnig amgylchedd cartrefol a chroesawgar i bobl lle gallan nhw gael y gofal a’r cymorth ychwanegol hwnnw, sydd eu hangen arnyn nhw.
Dechrau arni fel Gweithiwr Cartref Gofal
I lwyddo yn y swydd hon, bydd angen y rhinweddau canlynol arnoch chi:
- cyfathrebu’n dda
- cydymdeimlad a thosturi
- meithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth
- y gallu i weithio’n dda mewn tîm
- hyblygrwydd
- cadw cofnodion cywir.
Efallai yr hoffech chi ystyried y rhaglen Cyflwyniad i ofal cymdeithasol sy’n ymdrin â’r hanfodion sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Cymwysterau Gofynnol
Dewch o hyd i’r cymwysterau gofynnol neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y swydd hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch chi wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.