Neidio i'r prif gynnwys

Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy

Mae Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) yn ymgymryd â swyddogaethau a dyletswyddau arbenigol ar ran awdurdodau lleol, o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Bod yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP)

Un o brif swyddogaethau AMHP yw cydlynu asesiadau’r Ddeddf Iechyd Meddwl ar gyfer pobl y gallai fod angen eu derbyn i’r ysbyty oherwydd bod ganddynt anhwylder meddyliol difrifol a allai achosi perygl o niwed i’r unigolyn neu i bobl eraill. Bydd yr AMHP yn asesu’r unigolyn gydag un neu ddau feddyg ac yn penderfynu a oes angen dal yr unigolyn rhag mynd (ei anfon i’r ysbyty meddwl). Gall y meddygon sy’n asesu wneud argymhelliad i ddal unigolyn rhag mynd, ond yr AMHP fydd yn penderfynu p’un a ddylid cyflwyno cais ai peidio.

Cymwysterau Gofynnol

Rhaid i AMHP gofrestru gyda’r corff priodol a dod o’r proffesiynau canlynol:

  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Nyrs Seiciatrig neu Anabledd Dysgu
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Seicolegydd Siartredig.

Ni all meddygon fod yn AMHP, ac ar hyn o bryd Gweithwyr Cymdeithasol ydy’r rhan fwyaf ohonynt yng Nghymru.

Rhaid i AMHPau ymgymryd â hyfforddiant arbenigol sylweddol cyn y gall awdurdod lleol eu cymeradwyo. Yr unig gwrs o’r fath yng Nghymru yw’r un Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (Tystysgrif Ôl-radd) a gynhelir dros flwyddyn academaidd gan Brifysgol Abertawe. Er mwyn parhau i ymarfer, mae’n rhaid i AMHPau ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol i ddarparu tystiolaeth eu bod yn parhau i fod â’r cymhwysedd priodol i gyflawni eu swyddogaethau.

Rhagor o wybodaeth am y cymwysterau gofynnol ar gyfer y rôl hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Bydd angen i chi hefyd Gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cyfrifoldebau Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy

  • Bod yn hyderus ynghylch eu gwybodaeth am gyfraith iechyd meddwl gan gynnwys cyfraith achosion.
  • Gwneud penderfyniadau a all gael effaith sylweddol ar fywydau pobl, ac mae angen i’r penderfyniadau hynny fod yn gyfreithlon ac yn amddiffynadwy.
  • Sicrhau bod y gyfraith yn cael ei defnyddio’n gywir ac mai’r egwyddor lleiaf cyfyngol sy’n cael ei mabwysiadu ym mhob achos.
  • Meddu ar wybodaeth dda am y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r Ddeddf Hawliau Dynol er mwyn gwneud yn siŵr bod hawliau’r sawl sy’n cael ei asesu’n cael eu diogelu’n llawn a bod safbwynt cymdeithasol yn cael ei gynnwys yn yr asesiad.

Gwybodaeth am y gweithle

Er bod AMHPau yn aml yn cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol, mae’r rôl yn gwbl annibynnol sy’n golygu mai’r AMHP yn unig sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau. Mae’r ymreolaeth hon a chymhlethdod y rôl yn golygu bod swydd AMHP yn un heriol ond gwerth chweil.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.