Neidio i'r prif gynnwys

Nyrs Cartref Gofal i Oedolion

Fel Nyrs Cartref Gofal, byddwch chi’n darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i breswylwyr sy’n aml ag anghenion iechyd cymhleth.

Karen Wood, Care Home Nurse

Bod yn Nyrs Cartref Gofal

Byddwch chi’n gweithio fel rhan o dîm gyda gweithwyr gofal proffesiynol eraill drwy ganolbwyntio ar gyflyrau iechyd preswylwyr a’u heffaith ar eu cyfranogiad mewn gweithgarwch cymdeithasol.

Gan ystyried yr arferion clinigol gorau, byddwch chi’n cefnogi dewis y preswylwyr o ymyriadau ac yn canolbwyntio ar nodi newidiadau mewn symptomau yn gynnar er mwyn osgoi argyfyngau.

Byddwch chi hefyd yn cefnogi’r rheolwyr ac yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfredol ar gyfer pob preswylydd.

Gwybodaeth am y gweithle

Cymru iachach: yw ein cynllun i ddod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd er budd y cyhoedd. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i’r GIG a gofal cymdeithasol gydweithio mewn ffordd gydgysylltiedig.

Stori Karen

Dechreuodd Karen ar ei thaith gofal cymdeithasol yn 18 oed drwy weithio mewn ysgol ar gyfer plant ag anableddau dysgu. Ar ôl blynyddoedd o gynnydd, mae hi wedi ennill gwobr Nyrs y Flwyddyn Cymru ac wedi gweithio fel Nyrs mewn lleoliadau gofal cymdeithasol drwy gydol ei gyrfa.

Dechrau arni fel Nyrs Cartref Gofal

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • cynnig gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • gwneud penderfyniadau clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • cynllunio a chydlynu cynlluniau gofal unigol
  • sgiliau dirprwyo a goruchwylio
  • sgiliau cyfathrebu da
  • cydymdeimlad a thosturi
  • meithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth
  • cadw cofnodion meddygol cywir
  • cadernid
  • cymhelliant a phenderfyniad
  • y gallu i addasu i sefyllfaoedd heriol a chyfnewidiol.

Cymwysterau Gofynnol

Mae rhagor o wybodaeth am gymwysterau ar gyfer y swydd hon ar gael gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.