Neidio i'r prif gynnwys

Pennaeth Gwasanaethau Plant neu Oedolion 

Fel Pennaeth Gwasanaethau Plant neu Oedolion, byddwch yn gosod cyfeiriad, amcanion a nodau strategol, gan sicrhau asesiad proffesiynol o ansawdd uchel, yn cynllunio gofal ac yn darparu gwasanaethau i oedolion a phobl hŷn.

Bod yn Bennaeth Gwasanaethau Plant neu Oedolion 

Byddwch yn arwain y gwaith o gynllunio, datblygu a rheoli gwasanaethau a fydd yn gwella canlyniadau i bobl sydd angen gofal a chymorth. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr Statudol.

Byddwch yn sicrhau agwedd gynhwysfawr at ymarfer proffesiynol sy’n diogelu plant neu oedolion agored i niwed. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac asiantaethau partner i ddiogelu pobl a allai fod mewn perygl.

Byddwch yn rhoi arweiniad, canllawiau a chymorth i staff, gan ddatblygu hyder a chydnerthedd. Byddwch yn sicrhau bod staff yn glynu wrth bolisïau, deddfwriaeth a rheoliadau'r cwmni.

Gwybodaeth am y gweithle

Byddwch yn gweithio gyda phartneriaid mewnol, rhanddeiliaid allanol a sefydliadau.

Y prif gyfrifoldebau yw sicrhau bod yr adran yn cyflawni disgwyliadau deddfwriaethol o ran cefnogi plant, ac un o’r ffyrdd gorau o ymuno â’r sector yw dechrau prentisiaeth neu wirfoddoli.
Darren Mutter
Darren Mutter

Cyfrifoldebau’r Pennaeth Gwasanaethau Plant neu Oedolion

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • gwybodaeth am y ddeddfwriaeth berthnasol yng Nghymru
  • dealltwriaeth o ymarfer proffesiynol a dulliau gwahanol o ddiogelu a grymuso
  • gwybodaeth am arferion gorau a ble i gael gafael ar dystiolaeth
  • sgiliau rheoli ac arwain
  • sgiliau rheoli newid a gwella
  • sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
  • ymagwedd hyblyg at waith
  • y gallu i gydymdeimlo a chydbwyso gwahanol safbwyntiau proffesiynol
  • y gallu i fod yn greadigol a datrys problemau
  • y gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol
  • canolbwyntio ar gyflenwi gwasanaethau a pherfformiad
  • y gallu i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • y gallu i rymuso timau ac unigolion
  • y gallu i addasu i amgylchiadau sy’n newid
  • cydnerthedd a’r gallu i ddelio â sefyllfaoedd anodd
  • y gallu i feddwl yn feirniadol, a defnyddio tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau
  • sgiliau rheoli amser a threfnu da
  • llythrennedd cyfrifiadurol.

Cymwysterau Gofynnol 

Gallwch ddod o hyd i’r cymwysterau gofynnol neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y rôl hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.