Rheolwr Cartref Gofal
Fel Rheolwr Cartref Gofal, byddwch yn pennu cyfeiriad gweithredol a threfnu bod y cartref yn gweithredu’n effeithiol.
Bod yn Rheolwr Cartref Gofal
Byddwch chi’n gyfrifol am ethos a diwylliant cyffredinol y cartref, a’ch cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod gan y preswylwyr a’r staff le cartrefol, croesawgar a diogel i fyw a gweithio ynddo. Chi fydd hefyd yn rheoli prosesau recriwtio a disgyblu.
Gwybodaeth am y gweithle
Mae cartrefi gofal preswyl yn cynnig amgylchedd cartrefol a chroesawgar i bobl lle gallan nhw gael y gofal a’r cymorth ychwanegol hwnnw, sydd eu hangen arnyn nhw.
Stori Wendy
Cyfrifoldebau Rheolwr Cartref Gofal
I lwyddo yn y swydd hon, bydd angen i chi wneud y pethau canlynol:
- cynnig arweinyddiaeth
- rhoi arweiniad a chefnogaeth i staff
- sicrhau bod staff yn glynu wrth bolisïau’r cwmni a deddfwriaeth a rheoliadau
- cynnal sesiynau goruchwylio
- cadw cofnodion cyfredol ar gyfer y preswylwyr ac unrhyw ddogfennau rheoleiddio sydd eu hangen.
Cymwysterau Gofynnol
Dewch o hyd i’r cymwysterau gofynnol neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y swydd hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch chi wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.