Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 18 Tachwedd a 8 Rhagfyr, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar waith gofal cartref a ailalluogi

Mwy yma

Rheolwr Gofal Preswyl i Blant

Fel Rheolwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn pennu'r cyfeiriad gweithredol ac yn trefnu'r gwaith o redeg y cartref yn effeithiol.

Bod yn Rheolwr Gofal Preswyl i Blant

Byddwch yn gyfrifol am y gofal a ddarperir i blant mewn cartref neu mewn sawl cartref. Byddwch yn arwain eich timau i ddarparu gofal therapiwtig sy'n canolbwyntio ar blant, yn meithrin ac yn therapiwtig, gan ddiwallu anghenion unigol pob plentyn. Byddwch yn gwrando ar y plant a'r bobl ifanc yn eich gofal i sicrhau bod y gofal y maent yn ei dderbyn yn eu cefnogi i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Byddwch yn arwain ac yn cefnogi'ch tîm a'r plant yn eich gofal drwy gyfnodau anodd a sefyllfaoedd anodd, gan arwain gyda thosturi a chysondeb. Byddwch yn gyfrifol am ddogfennaeth a chwrdd â gofynion rheoleiddio

Byddwch hefyd yn darparu arweinyddiaeth, arweiniad a chefnogaeth i staff gan sicrhau bod staff yn glynu wrth bolisïau, deddfwriaeth a rheoliadau’r cwmni, a bod yr holl gynlluniau gofal a safonau’n cael eu bodloni. Byddwch hefyd yn goruchwylio ac yn mynychu cyfarfodydd gyda lleoliadau addysg, yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill.

Gwybodaeth am y gweithle

Mae cartrefi preswyl i blant hefyd yn cael eu galw’n gartrefi plant. Maen nhw’n cartref lle gall plant a phobl ifanc fyw os nad ydyn nhw’n gallu bod gartref gyda’u teuluoedd eu hunain.

Dechrau arni fel Rheolwr Gofal Preswyl i Blant

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi: 

  • sgiliau arwain a rheoli da
  • sgiliau a phrofiad mewn dulliau therapiwtig
  • sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
  • cymhelliant a phenderfyniad
  • bod yn chwaraewr tîm
  • y gallu i roi sylw trylwyr i fanylion, gan wneud yn siŵr bod y wybodaeth gywir yn cael ei chofnodi yn yr holl waith papur
  • natur ofalgar, gefnogol ac amyneddgar
  • hyder wrth ddelio â phlant, pobl ifanc ac oedolion
  • y gallu i roi cyfarwyddiadau a goruchwylio aelodau eraill o'r tîm.

Cymwysterau Gofynnol 

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ragor o wybodaeth am y cymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer y swydd hon. 

Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch chi wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein. 

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.