Neidio i'r prif gynnwys

Rheolwr Tîm Maethu

Fel Rheolwr Tîm Maethu, chi sy’n gyfrifol am reoli’r gwasanaeth maethu.

Bod yn Rheolwr Tîm Maethu

Byddwch yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth maethu a goruchwylio gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth yn y tîm maethu.

Byddwch yn pennu’r cyfeiriad gweithredol, yn canolbwyntio ac yn trefnu i’r gwasanaeth gael ei redeg yn effeithiol o fewn fframweithiau polisi a gweithdrefnol.

Gwybodaeth am y gweithle

Mae hon yn rôl â thâl lle byddwch yn gweithio yn y gwasanaeth maethu.

Yng Nghymru, rhaid i wasanaethau maethu fod wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, sy’n cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd gwasanaethau gofal ledled Cymru.

Stori Sue

Bu Sue yn gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cynorthwyol wrth gwblhau ei gradd Gwaith Cymdeithasol a’i gradd meistr. Erbyn hyn, mae hi’n Rheolwr Tîm Cynorthwyol sy’n cynorthwyo’r gwaith o recriwtio, cadw a hyfforddi gofalwyr maeth lleol.

Dechrau arni fel Rheolwr Tîm Maethu

Bydd angen gwybodaeth a phrofiad helaeth arnoch ym maes gwaith cymdeithasol gofal plant, gwybodaeth am reoliadau maethu, profiad o oruchwylio a bod yn rheolwr llinell ar staff.

Cymwysterau Gofynnol

Bydd angen gradd mewn Gwaith Cymdeithasol a chymhwyster rheoli arnoch.

Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.