Neidio i'r prif gynnwys

Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol

Fel Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol, byddwch yn gyfrifol am reoli tîm gwaith cymdeithasol o ddydd i ddydd.

Bod yn Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol

Byddwch yn rhoi arweiniad, cyfarwyddyd a chymorth i dîm o weithwyr cymdeithasol ac weithiau staff iechyd a gofal cymdeithasol eraill, gan eu helpu i ddatblygu eu hyder a chydnerthedd. Byddwch yn rhoi cyfarwyddyd ac argymhellion, gan sicrhau bod y camau mwyaf priodol yn cael eu cymryd mewn ymateb i'r atgyfeiriadau a geir.

Byddwch yn goruchwylio staff yn rheolaidd, yn cynnal gwerthusiadau perfformiad ac yn cefnogi eu twf proffesiynol. Byddwch hefyd yn sicrhau bod staff yn glynu wrth bolisïau, deddfwriaeth a rheoliadau.

Byddwch yn rhoi cyngor i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Byddwch yn cadeirio cyfarfodydd ac yn gwneud yn siŵr bod cynlluniau a chofnodion ysgrifenedig yn gywir ac yn gyfredol ar gyfer yr holl unigolion y mae eich tîm yn eu cefnogi. Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn rheoli adnoddau a chyllidebau.

Gwybodaeth am y gweithle

Gall timau weithio gyda phlant, teuluoedd, y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl neu bobl hŷn; efallai y byddant wedi’u lleoli mewn cymunedau lleol neu yn swyddfeydd canolog y cyngor. Byddwch chi a’ch tîm yn gweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl sydd angen cymorth.

Helen Dobson

Cyfrifoldebau’r Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • sgiliau rheoli ac arwain, gan gynnwys goruchwylio a hyfforddi
  • sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
  • ymagwedd hyblyg at waith a’r gallu i ymateb i flaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd
  • y gallu i feddwl yn feirniadol a bod yn greadigol a datrys problemau
  • y gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol a datblygu cysylltiad â gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd
  • pwyll, empathi ac amynedd
  • agwedd anfeirniadol ac ymrwymiad i ymateb i bawb gydag ymdeimlad o chwarae teg
  • tosturi, cydnerthedd a pharodrwydd i ddelio â sefyllfaoedd anodd
  • llythrennedd cyfrifiadurol
  • sgiliau da o ran rheoli amser ynghyd â sgiliau gweinyddol ac adrodd
  • sgiliau rheoli ariannol

Cymwysterau Gofynnol

Gallwch ddod o hyd i’r cymwysterau gofynnol neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y rôl hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ewch i Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd angen cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru os yw’r rheolwr tîm yn Weithiwr Cymdeithasol.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.

If you’re considering a career in care, we have a range of training programmes available to help you get started.