Neidio i'r prif gynnwys

Rheolwr Tîm Maethu

Fel Rheolwr Tîm Maethu, chi sy’n gyfrifol am reoli’r gwasanaeth maethu.

Bod yn Rheolwr Tîm Maethu

Byddwch yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth maethu a goruchwylio gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth yn y tîm maethu.

Byddwch yn pennu’r cyfeiriad gweithredol, yn canolbwyntio ac yn trefnu i’r gwasanaeth gael ei redeg yn effeithiol o fewn fframweithiau polisi a gweithdrefnol.

Gwybodaeth am y gweithle

Mae hon yn rôl â thâl lle byddwch yn gweithio yn y gwasanaeth maethu.

Yng Nghymru, rhaid i wasanaethau maethu fod wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, sy’n cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd gwasanaethau gofal ledled Cymru.

Dechrau arni fel Rheolwr Tîm Maethu

Bydd angen gwybodaeth a phrofiad helaeth arnoch ym maes gwaith cymdeithasol gofal plant, gwybodaeth am reoliadau maethu, profiad o oruchwylio a bod yn rheolwr llinell ar staff.

Cymwysterau Gofynnol

Bydd angen gradd mewn Gwaith Cymdeithasol a chymhwyster rheoli arnoch.

Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.