Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth am y Gymraeg

O ganlyniad i ddeddfwriaeth a datblygiadau ym maes polisi iaith, mae angen i ddarparwyr gwasanaethau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ganddynt drefniadau staffio cymesur, priodol a digonol ar waith i ddarparu gwasanaeth gofal dwyieithog. Trwy wella sgiliau a gwybodaeth iaith Gymraeg y gweithlu, a’i ddealltwriaeth o ddwyieithrwydd, bydd modd helpu i ddarparu gwasanaethau gofal gwell i bawb.

Mae deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn nodi bod angen sicrhau’r canlynol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg ym maes gofal cymdeithasol:

  • eu bod o’r un safon a’u bod ar gael mor hawdd ac mor brydlon â gwasanaethau Saesneg
  • eu bod mor eang a thrylwyr
  • ni ddylai sefydliadau ragdybio mai Saesneg yw’r iaith ddiofyn wrth ddarparu eu gwasanaethau
  • ni ddylai siaradwyr Cymraeg orfod gofyn am wasanaeth yn y Gymraeg.

Dyma rai dolenni defnyddiol i safonau, cynlluniau ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Gwybodaeth am hawliau, cynlluniau iaith Gymraeg, a chanllawiau i helpu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

Mwy na geiriau

‘Mwy na Geiriau’ yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ei nod yw:

  • sicrhau bod anghenion iaith siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu
  • darparu gwasanaethau Cymraeg i’r rhai sydd eu hangen
  • dangos bod iaith yn rhan bwysig o ansawdd gofal ac nad yw’n cael ei hystyried yn elfen “atodol”.

Mae gan siaradwyr Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg gyfraniad i’w wneud i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi pedwar grŵp blaenoriaeth y mae gwasanaethau Cymraeg yn bwysig iawn iddynt. Y grwpiau yw:

  • plant
  • pobl hyn
  • pobl ag anableddau dysgu
  • pobl â phroblemau iechyd meddwl.

Mae’r grwpiau blaenoriaeth hyn yn agored iawn i niwed os nad ydyn nhw’n derbyn gofal yn eu dewis iaith.

Mwy na geiriau

Fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yw ‘Mwy na geiriau'

Y ‘Cynnig Rhagweithiol’

Ystyr y ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr yn yr un modd â gwasanaethau Saesneg..

Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg mewn ffordd ragweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a’u diwallu a bod y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gofal yn gwybod y byddant yn cael eu trin â’r urddas a’r parch y maent yn eu haeddu.

Os nad yw gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig mewn ffordd ragweithiol, gallai hynny effeithio ar urddas a pharch pobl.

Sut i asesu sgiliau Cymraeg

Cynlluniwyd yr adnodd Sgiliau Iaith Gymraeg eich gweithlu – eu defnyddio yn effeithiol er mwyn helpu i fodloni gofynion ‘Mwy na Geiriau’ trwy helpu cyflogwyr a rheolwyr i nodi’r sgiliau Cymraeg sydd gan eu gweithlu.

Mae’r adnodd hwn yn cynnwys hunanasesiad sy’n nodi sgiliau siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg, o lefel sylfaenol i rugl. Mae pob lefel yn bwysig ac mae galw mawr amdanynt yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.