Hanes Daniel
Cyflwyniad
Cafodd Daniel enseffalomyelitis acíwt (ADEM) yn dair oed. Achosodd gyfog a chwydu, cur pen, anniddigrwydd a chysgadrwydd. Aeth yn ansadd ac yna collodd y gallu i gerdded. Nid oedd yn gallu siarad, a theimlodd ei gorff yn hynod o wan. Cafodd drawiad hefyd.
Gan fod ADEM yn cael ei ddosbarthu fel anaf caffaeledig i’r ymennydd, clefyd dadfyelineiddio sy’n achosi llid yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, yn bennaf mewn plant. Roedd y sgîl-effeithiau’n cynnwys colli cydbwysedd ac fe wnaeth Daniel ailddysgu sut i gerdded a siarad eto.
Mae chwaraeon wedi helpu materion cydbwysedd Daniel ac nid oes ganddo unrhyw effeithiau corfforol gweddilliol, ond mae Daniel yn cael trafferth gydag anawsterau o ran dal sylw, cyflymder prosesu a lefelau canolbwyntio.
Fe wnaeth Daniel dderbyn cymorth yn ystod ei arholiadau yn yr ysgol a’r coleg. Mae Daniel bellach ym Mhrifysgol Bangor ac yn parhau i dderbyn cefnogaeth.
Beth sy’n bwysig i Daniel?
Mae’n bwysig i Daniel ei fod yn cael ei drin fel pawb arall, nid yw’n wahanol i unrhyw un arall.
Meddai Daniel: “Cefais gymorth addysgol ac yn ffodus nid oedd angen unrhyw ymyriadau gofal cymdeithasol arnaf gan oherwydd i mi allu gwella’n gorfforol”.
Mae Daniel yn esbonio’n bellach “Fel person ifanc yn ystod covid, doeddwn i ddim yn gallu mynychu’r coleg ac roeddwn i wedi fy ynysu oddi wrth ffrindiau, oherwydd hyn rydw i bellach yn gweld bod cefnogi fy lles yn hanfodol i ofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol. Mae Daniel hefyd yn cefnogi ei ffrindiau a’u hiechyd meddwl.
Mae Daniel wrth ei fodd â chwaraeon ac yn padlo byrddau, yn mynd ar heiciau ac yn gwneud dringo creigiau.
Cyfeiriwyd at TGAU CBAC Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
- Rhan 1.2 Deall iechyd a lles
- Rhan 1.4 Rheoli cyflyrau iechyd
- Rhan 2.3 Dangosyddion iechyd, Dylanwadau iechyd a lles
Cymorth i athrawon
- Beth sy’n achosi ADEM?
- Nodwch ddau reswm pam mae chwaraeon yn bwysig i iechyd.
- Beth yw categori oedran targed Daniel?
- Sut gallai Daniel gefnogi ei les ymhellach?