Neidio i'r prif gynnwys

Cael ‘tosturi’

Deall caredigrwydd a sut mae’n gwneud i bobl deimlo.

Gweithgaredd un: Ystafell ddosbarth dosturiol

Bydd angen i ti gael:

  • Darn o bapur
  • Beiro/pensil

Tasg: 

Meddylia am rywbeth caredig y mae un o aelodau dy ddosbarth wedi ei wneud i dy helpu. Gallai olygu benthyg pensil i ti, codi dy galon pan fyddi di'n drist, gwenu arnat ti, neu wneud cerdyn pen-blwydd i ti.

Ysgrifenna ar ddarn o bapur, plyga dy bapur yn ei hanner, a'i roi i dy athro/athrawes.

Bydd dy athro/athrawes yn darllen yr holl weithredoedd caredig y mae dy ddosbarth wedi'u gwneud. Wrth iddyn nhw ddarllen drwyddyn nhw, cod dy law a dyweda wrth dy athro/athrawes sut rwyt ti'n credu y byddai pob gweithred garedig yn gwneud i bobl deimlo.

Mae bod yn garedig i’n gilydd yn helpu pobl i deimlo'n dda, a dylai pawb geisio gwneud un peth caredig i rywun bob dydd! Mae cael tosturi yn helpu eraill ac yn dangos eich bod yn poeni.

Gweithgaredd uda: Aelod newydd o’r dosbarth

Bydd angen i ti gael:

  • Darn o bapur
  • Beiro/pensil

Mae person newydd yn dy ysgol. Maen nhw'n teimlo'n ofnus iawn ac yn poeni am wneud ffrindiau newydd.

Gall dechrau mewn ysgol newydd fod yn anodd ac yn her, efallai y bydd rhai plant yn teimlo’n nerfus. Mae’n bosib na fyddan nhw’n adnabod neb yn eu hysgol newydd.

Tasg:

Mewn grwpiau o bedwar, ysgrifenna sut fyddet ti'n gwneud iddyn nhw deimlo'n gartrefol yn dy ysgol ac yn dy ddosbarth.