fbpx
Skip to main content

Cyrsiau rhagarweiniol mewn gofal cymdeithasol a gofal plant


Ydych chi’n ystyried gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu gofal plant?

Ydych chi’n teimlo bod angen i chi ennill sgiliau a dealltwriaeth o’r rolau sydd ar gael?

Mwy o wybodaeth am hyfforddiant Gofalwn Cymru sydd ar gael i chi.

Y rhaglen

Rydym yn cynnal cwrs hyfforddi am ddim, wedi’i ariannu’n llawn, i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol (ac yn byw yng Nghymru) o’r new Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol.

Mae’r rhaglen tri diwrnod ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru a bydd yn cael ei chynnal ar-lein gyda llyfr gwaith i’w gwblhau.

Mae’r amseroedd rhwng 9:45am-2:30pm.

Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu’r hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol fel cyfathrebu, diogelu ac arferion gwaith. Pan fyddwch yn dechrau gweithio yn y sector, byddwch hefyd yn derbyn cymorth a hyfforddiant ychwanegol gan eich cyflogwr.

Os na allwch gael mynediad i’r hyfforddiant ar-lein neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni ar cyswllt@gofalwn.cymru.

Os ydych yn ansicr am yrfa mewn gofal cymdeithasol, mae ein hadnodd dysgu rhyngweithiol i ddarganfod mwy www.Gofalwn.cymru/dechrau-gofal-yn-galw/.

I weithio o fewn y sector gofal cymdeithasol – Bydd angen i chi gael rhai gwiriadau i sicrhau eich bod yn addas i weithio yn y sector gofal. Bydd hyn yn cynnwys rhywbeth o’r enw gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i sicrhau y gallwch weithio ym maes Gofal Cymdeithasol. Mae rhai rolau hefyd yn gofyn am gofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru.

Nid yw’r rhaglen hon yn gymhwyster achrededig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth am nawddau a hawliau gwaith ewch i www.gov.uk

Swyddi

Ar ddiwedd y rhaglen, gall ein hyfforddwr gwaith eich helpu i’ch cyfeirio at ragor o gefnogaeth a chyfleoedd. Os ydych wedi cwblhau’r tri diwrnod cyfan, gallwch hefyd gael mynediad i’r cynllun gwarantu cyfweliad sy’n rhoi cyfle i chi drefnu cyfweliadau yn uniongyrchol â chyflogwyr sydd wedi cofrestru ar y cynllun. Cyfeiriwch at y rhestr cyflogwyr i ddod o hyd i gyfleoedd yn eich ardal

Mae’r prosiect yn rhad ac am ddim ac wedi’i hariannu’n llawn, ond ni fyddwch yn derbyn tâl am fynychu. Byddwch yn derbyn sgiliau a gwybodaeth hanfodol wrth i chi ddechrau ar eich taith.

Cynllun cyfweliad gwarantedig

Mae mwy na 50 o gyflogwyr wedi ymuno â chynllun newydd i helpu mwy o bobl gael swydd mewn gofal cymdeithasol.

Bydd y cynllun, a reolwyd gan Gofalwn Cymru, yn helpu unrhyw un sydd wedi cwblhau’r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol gael cyfweliad, a gwneud hi’n haws iddyn nhw gael swydd mewn gofal cymdeithasol.

Mae’r cynllun yn bartneriaeth gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol ar draws Cymru ac yn helpu pobl sy’n chwilio am swyddi a chyflogwyr.

Mae’n cyflymu’r broses recriwtio, fel bod pobl yn gallu cychwyn mewn swyddi’n gynt ac yn rhoi mantais iddyn nhw dros bobl eraill sy’n ceisio am yr un swyddi.

Mae hefyd yn helpu cyflogwyr ddod o hyd i’r bobl iawn i’r swyddi iawn, ac yn eu galluogi nhw i ddewis pobl sydd â gwir ddiddordeb mewn gofal cymdeithasol.

Sut mae’n gweithio

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol, bydd Gofalwn Cymru yn rhoi rhestr o gyflogwyr iddyn nhw sydd wedi ymuno â’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Gall unrhyw un sydd wedi cwblhau’r rhaglen gysylltu â’r cyflogwyr yma i drefnu cyfweliad ffurfiol ar gyfer rôl gydag un o’r cwmnïau yma.

Bydd Gofalwn Cymru yn eu cyfeirio at borthol swyddi Gofalwn Cymru sy’n hysbysebu swyddi gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys rhai sy’n rhan o’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Mae hyfforddwr gwaith Gofalwn Cymru hefyd ar gael i ddarparu hyfforddiant iddyn nhw i wella’u sgiliau cyfweliad, er mwyn eu paratoi ar gyfer cymryd eu camau cyntaf mewn gyrfa gofal cymdeithasol.

“Cynllun arbennig”

Lansiwyd y cynllun ym mis Gorffennaf ar ôl peilot llwyddiannus gyda Grŵp Pobl, darparwr tai, cymorth a gofal yng Nghasnewydd. Mae Pobl eisoes wedi cyflogi tri pherson ar ôl defnyddio’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Dywedodd Richard Barnes, Pennaeth Denu Talent ym Mhobl:

“Mae’n gynllun arbennig sy’n rhoi cyflwyniad cryf i’r sector. Mae gan y bobl rydyn ni eisoes wedi’u cyflogi agweddau gwych, dealltwriaeth dda o’u rolau newydd a dyfodol disglair o’u blaenau.”

Cofrestrwch ar gyfer ein gweminar cynllun cyfweliad gwarantedig nesaf ar

Gweminar Cynllun Cyfweliad Gwarantedig, 8 o Fedi rhwng 10-11am

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch: cyswllt@gofalwn.cymru

Rhaglen cyflwyniad i ofal cymdeithasol i colegau

Ydych chi’n athro Iechyd a Gofal Cymdeithasol addysg bellach? A yw eich myfyrwyr 16+ oed a diddordeb mewn dysgu mwy am ofal cymdeithasol neu ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol neu waith cymdeithasol yn y dyfodol? Rydym wedi datblygu rhaglen dau ddiwrnod yn benodol ar gyfer myfyrwyr sydd yn astudio iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o addysg bellach. Mae’r sesiynau’n dibynnu ar argaeledd ac yn cael eu cyflwyno ar-lein.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:

• Beth yw gofal cymdeithasol?
• Rolau o fewn gofal cymdeithasol
• Rhinweddau a disgwyliadau gweithiwr
gofal cymdeithasol
• Ffeindio swydd ym maes gofal
cymdeithasol
• Dyletswydd gofal, risg a diogelu
• Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014
• Gweithio amlasiantaethol
• Cyfathrebu a rhwystrau
• Cyfrinachedd a chydsyniad
• Hyrwyddo annibyniaeth
• Gwydnwch a lles personol

I drafod argaeledd ein rhaglen coleg neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch a Sam Thomas ar 02920 780543 neu Liz Tibbatts ar 02920 675691 neu danfon ebost i cyflwyniadiofalcymdeithasol@gofalcymdeithasol.cymru.

Rhestr cyflogwyr

Môn

Blaenau Gwent

Pen-y-bont

Caerffili

Caerdydd

Sir gaerfyrddin

Ceredigion

Conwy

Sir ddinbych

Sir Fflint

  • Haulfryn Care Limited, Cartref gofal dementia yn Sir y Fflint Rhif ffôn: 01978 762203 | E-bost:info@haulfryn-care.co.uk

Gwent

Gwynedd

Merthyr Tydfil

  • Abacare ym Merthyr E-bost:Shannon.Meredith@abacare.org.uk
  • Drive Ltd, cefnogi byw, gofal cartref, gofal tymor byr a hybiau cymunedol ym Merthyr Tudful E-bost:rebekahplayer@drive-wales.org.uk neu hr@drive-wales.org.uk | Rhif ffôn:01443 845289 (HR) neu 01443 565661 (uniongyrchol)
  • Swanton Care & Community, values in Care/GRS Care,cefnogi byw a phreswyl yn Nhreharris E-bost:Lara.batty@swantoncare.com | Rhif ffôn:07767162770
  • Team Rainbow, cartref gofal plant yn Merthyr Tydfil, manylion cyswllt: James Cosgrove E-bost:jamesc@team-rainbow.co.uk | Rhif ffôn: 01443 227336 website:www.rainbowtherapeutic.co.uk
  • Phoenix Learning and Care, cartrefi preswyl i blant ym Merthyr, RhCT, Caerffili a Blaenau Gwent. Cysylltwch â Rebecca Jones, E-bost: bjones@plcl.org.uk, Rhif Ffôn:07826642210.

Sir fynwy

  • Consensus Residential service, gwasanaeth byw â chymorth ym Magwyr E-bost:LJackson@consensussupport.com
  • Lougher Home Care, cartref gofal, â chymorth byw, gofal cartref ym Magwyr, Cil-y-coed, Cas-gwent E-bost:Admin@lougherhomecare.co.uk
  • Abi Care, gofal cartref, byw mewn gofal yn Sir Fynwy E-bost:kelsie.jenkins@abicare.co.uk
  • Home Instead Dom care, Byw mewn gofal Sir Fynwy E-bost: nicola.gibbins@homeinstead.co.uk neu info.newport@homeinstead.co.uk
  • My Care My Home, cartref gofal, â chymorth byw, gofal cartref yn Sir Fynwy E-bost:rob.pitts@mycaremyhome.co.uk
  • Radis Community Care, gofal yn y cartref a gofal ychwanegol yn Sir Fynwy E-bost: abigail.davies@radis.co.uk | Rhif ffôn:07858367355
  • Drive Ltd, cefnogi byw, gofal cartref, gofal tymor byr a hybiau cymunedol yn Sir Fynwy E-bost:rebekahplayer@drive-wales.org.uk neu hr@drive-wales.org.uk | Rhif ffôn: 01443 845289 (HR) neu 01443 565661 (uniongyrchol)
  • Pobl, yn Nhrefynwy E-bost:rebecca.borde@poblgroup.co.uk
  • 3 Circles Care, gofal cartref yn y Fenni Contact: Heidi Charlton Rhif ffôn: 01873 269 273/07850 912 108

Castell-nedd Port Talbort

  • Mirus, gwaith gofal cymdeithasol, gofal preswyl, cefnogaeth seibiant yng Nghastell-nedd Port Talbot E-bost: recruitment@mirus-wales.org.uk | Rhif ffôn: 02920 236216
  • Drive Ltd, Gyda chefnogaeth byw, gofal cartref, gofal tymor byr a hybiau cymunedol yn Neath Port Talbot E-bost:rebekahplayer@drive-wales.org.uk neu hr@drive-wales.org.uk | Rhif ffôn:: 01443 845289 (HR) neu 01443 565661 (uniongyrchol)
  • Pobl, anabledd dysgu, gofal preswyl yng Nghastell-nedd E-bost: rebecca.borde@poblgroup.co.uk
  • Pobl, cartref gofal preswyl yn Aberafan E-bost rebecca.borde@poblgroup.co.uk
  • Casnewydd

Sir benfro

Powys

  • Cyngor Powys, Cymorth Cartref, anableddau, iechyd meddwl, pobl hŷn, gwasanaethau dydd, cymorth cymunedol. Rolau amser llawn, rhan amser. Tîm Recriwtio recruitment@powys.gov.uk – 01597 826409. https://en.powys.gov.uk/job-vacancies
  • Mirus, gwaith gofal cymdeithasol, gofal preswyl a chefnogaeth seibiant yn Aberhonddu E-bost:recruitment@mirus-wales.org.uk | Rhif Ffôn: 02920 236216
  • Specturm Healthcare, gofal cartref a 1&1 yn Aberhonddu E-bost: spectrumhealthcare@rocketmail.com | Rhif Ffôn: 07483300730
  • Swanton care and community, E-bost: Lauren.batty@swantoncare.com | Rhif Ffôn: 07767162770
  • C&C healthcare, gofal cartref, anaf i’r ymennydd sy’n gysylltiedig â alochol yn Ystradgynlais E-bost:Emma.snell@candchealthcare.co.uk | Rhif Ffôn: 07568132047

Rhondda Cynon Taf

Abertawe

Torfaen

Bro Morgannwg

Cymru Gyfan

Wrecsam

Gweithdai

Oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol?  

Oes angen i chi ysgrifennu neu ddiweddaru eich CV, cyngor i lenwi ffurflenni cais neu eisiau magu eich hyder gyda chyfweliadau?  

Mae Gofalwn Cymru yn cynnig gweithdai ar-lein ac am ddim i’ch cefnogi yn y broses recriwtio ym maes gofal cymdeithasol.  

Gallwch edrych ar ddyddiadau sy’n addas i chi ac archebu eich lle yma: 

Dydd Gwener 15 o Fedi rhwng 9:45am-2:30pm

Dydd Llun 16 o Hydref rhwng 9:45am-2:30pm

Dydd Iau 7 o Rhagfyr rhwng 9:45am-2:30pm

Y rhaglen

Rydym yn cynnig rhaglen am ddim ‘Cyflwyniad i ofal plant’ ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru i alluogi nhw i ennill gwybodaeth a sgiliau yn y sector gofal plant. Mae hwn yn gwrs deuddydd (dyddiadau wedi’u nodi isod). Drwy ddewis y cwrs hwn rydych yn cytuno i fynychu’r ddau sesiwn.

Ynglŷn â’r hyfforddiant

Bydd y rhaglen hyfforddi deuddydd yn cael ei chynnal ar-lein a bydd llyfr gwaith hefyd yn cael ei gwblhau.

Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu’r hanfodion sydd eu hangen i ddechrau gweithio ym maes gofal plant, gan gynnwys:

• Diogelu Grŵp A

• rolau a chyfrifoldebau gweithwyr gofal plant

• cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad

• cyfathrebu gan gynnwys yr iaith Gymraeg

• Iechyd a diogelwch gan gynnwys rheoli heintiau

• dull sy’n canolbwyntio ar  y plentyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy neu os ydych yn ystyried gyrfa mewn gofal plant, ymunwch â’n rhaglen a dechreuwch eich taith gofal plant heddiw!

Swyddi sydd ar gael

Rydyn ni wedi gofyn i gyflogwyr i gofrestru unrhyw swyddi gwag sydd ganddynt ar www.Gofalwn.cymru/swyddi. Gallwch wneud cais am un o’r swyddi hyn cyn, yn ystod neu ar ôl i chi fynychu’r cwrs hyfforddi, ond bydd cwblhau’r cwrs yn sicrhau eich bod yn barod i weithio.

Dilynol

Os ydych yn rhan o raglen gyflogadwyedd (er enghraifft, gyda Workways neu Job Centre Plus), efallai gallwch gael cymorth gyda chostau teithio ar gyfer mynychu cyfweliadau.

Rydyn ni eisiau gwybod pa mor dda mae’r hyfforddiant yn gweithio. Byddwn yn cysylltu â chi mis ar ôl i chi cwblhau’r cwrs i gael adborth ac i weld os ydych wedi bod yn llwyddiannus mewn cael swydd ym maes gofal cymdeithasol.

Previous story Back to news Next story