Neidio i'r prif gynnwys

Blas ar: Gwaith cymdeithasol

Gweminar ar-lein am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut i fynd i mewn i waith cymdeithasol.


Neilltuwch eich lle

Am y gweminar

Cynhelir y gweminar  ar-lein ac mae wedi'i hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut i fynd i mewn i waith cymdeithasol.

Bydd y cwrs yn cynnwys:

  • Beth yw gwaith cymdeithasol?
  • Beth yw rôl gweithiwr cymdeithasol? – gan gynnwys cyfrifoldebau allweddol
  • Y cwestiwn ‘beth sy’n bwysig’ a dull sy’n seiliedig ar gryfderau
  • Beth yw cofrestru? a'r Codau Ymarfer Proffesiynol
  • Eich taith i waith cymdeithasol a thu hwnt.

Manylion y gweminar

CostAm ddim
Hyd45 munud
CyfyngiadauRhaid i chi fod yn 16+, yn byw yng Nghymru neu ar ei ffiniau a bod gennych yr hawl i weithio yn y DU
LleoliadAr-lein ac bydd angen mynediad i fideo a sain

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Os oes gennych gwestiynau am ein rhaglenni uchod neu os oes gennych ddiddordeb mewn rhaglen benodol neu raglen grŵp cymunedol, cysylltwch â ni:

I weld sut rydyn ni'n defnyddio, yn storio ac yn dileu eich gwybodaeth, darllenwch: Polisi Preifatrwydd | Gofalwn Cymru