Neidio i'r prif gynnwys

Cefnogi pobl mewn i ofal cymdeithasol

Gweminar ar-lein am ddim i unrhyw un sydd  yn cefnogi pobl i mewn i waith, gwirfoddoli neu hyfforddiant ac sydd eisiau dysgu mwy am ofal cymdeithasol.

Neilltuwch eich lle
Two people sitting either side of a desk

Am y gweminar

Mae’r gweminar ar-lein rhad ac am ddim hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n cefnogi pobl i mewn i waith, gwirfoddoli neu hyfforddiant ar hyn o bryd ac sydd eisiau dysgu mwy am ofal cymdeithasol.

Bydd yn cynnwys:

  • Sut y gall Gofalwn Cymru eich helpu i gefnogi pobl mewn i ofal cymdeithasol
  • Sut i gael mynediad at hyfforddiant ac adnoddau am ddim
  • Syniadau ac awgrymiadau ar ysgrifennu CV, ffurflenni cais a chyfweliadau ar gyfer gofal cymdeithasol
  • Mynd i'r afael â mythau gofal cymdeithasol
  • Llwybrau gyrfa i ofal cymdeithasol
  • Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Manylion y gweminar

CostAm ddim
Hyd45 munud
CyfyngiadauRhaid i chi fod yn 16+, yn byw yng Nghymru neu ar ei ffiniau a bod gennych yr hawl i weithio yn y DU
CymhwysterDim cymwysterau gofynnol
LleoliadAr-lein ac bydd angen mynediad i sain

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Os oes gennych gwestiynau am ein rhaglenni uchod neu os oes gennych ddiddordeb mewn rhaglen benodol neu raglen grŵp cymunedol, cysylltwch â ni:

I weld sut rydyn ni'n defnyddio, yn storio ac yn dileu eich gwybodaeth, darllenwch: Polisi Preifatrwydd | Gofalwn Cymru