Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch y bydd gwefan Gofalwn Cymru all-lein dros dro ar ddydd Llun 27 Ionawr i wneud diweddariadau hanfodol

Cyflwyniad i ddementia

Hyfforddiant ar-lein am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddementia.

Neilltuwch eich lle

Am yr hyfforddiant

Bydd y sesiwn hyfforddi dwy awr yn cael ei chynnal ar-lein ac mae wedi'i hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddementia. Gallai hyn gynnwys gofalwyr di-dâl, staff gofal a chymorth, gwirfoddolwyr neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector.

Bydd yn cynnwys:

  • Beth yw dementia?
  • Symptomau
  • Mathau cyffredin
  • Ffactorau risg
  • Ymagwedd yn seiliedig ar gryfderau
  • Cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Cyfathrebu
  • Amgylchedd
  • Annibyniaeth
  • Beth sy'n bwysig
  • Cyfeirio at gefnogaeth bellach

Manylion y cwrs

CostAm ddim
Hyd2 awr
CyfyngiadauRhaid i chi fod yn 16+, yn byw yng Nghymru neu ar ei ffiniau a bod gennych yr hawl i weithio yn y DU
CymhwysterDim cymwysterau gofynnol
LleoliadAr-lein ac bydd angen mynediad i sain

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Os oes gennych gwestiynau am ein rhaglenni uchod neu os oes gennych ddiddordeb mewn rhaglen benodol neu raglen grŵp cymunedol, cysylltwch â ni:

I weld sut rydyn ni'n defnyddio, yn storio ac yn dileu eich gwybodaeth, darllenwch: Hysbysiad preifatrwydd Gofal Cymdeithasol Cymru