Y Gymraeg mewn Gofal Cymdeithasol
Hyfforddiant ar-lein am ddim i bobl 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Am yr hyfforddiant
Mae'r sesiwn hyfforddi ddwy awr hon ar-lein yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion allweddol Cymraeg ar gyfer gofal cymdeithasol, gan eich helpu i gefnogi unigolion sy'n siarad Cymraeg drwy alluogi sgyrsiau sylfaenol a deall eu hanghenion. Mae'r sesiwn hon ar agor i bawb, p'un a ydych chi'n chwilio am swydd, eisoes yn gweithio yn y sector, neu'n cefnogi ffrind neu aelod o'r teulu sy'n siarad Cymraeg. Mae'r sesiwn hon yn beilot ac mae sesiynau pellach yn dibynnu ar bresenoldeb yn y sesiwn ac adborth.
Bydd yn ymdrin â:
- beth yw'r iaith Gymraeg?
- pwysigrwydd y Gymraeg mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru
- effaith darpariaeth y Gymraeg
- deddfwriaeth
- dysgu geiriau ac ymadroddion allweddol Cymraeg ar gyfer gofal cymdeithasol, fel:
- cyfarchion
- rhannau o'r corff
- teimladau
- lliwiau
- bwyd a diod
- cwestiynau ac ymatebion sy'n seiliedig ar ofal cymdeithasol
- dysgu pellach.
Bydd sleidiau'r cyflwyniad yn cael eu hanfon atoch ar ôl cwblhau'r sesiwn, ac rydym yn eich annog i ddefnyddio'r sleidiau i barhau i ddysgu ac ymarfer eich gwybodaeth newydd o'r Gymraeg.
Wrth weithio yn y sector, bydd eich cyflogwr hefyd yn darparu hyfforddiant a chymorth ychwanegol yn y Gymraeg.
Manylion y cwrs
Cost | Am ddim |
Hyd | Dwy awr |
Cyfyngiadau | Rhaid bod dros 16, yn byw yng Nghymru neu ar ei ffiniau, ac â’r hawl i weithio yn y DU |
Cymhwyster | Dim cymwysterau gofynnol |
Lleoliad | Ar-lein a bydd angen mynediad i sain |
Hawl i weithio
Dim ond unigolion sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru ar adeg cofrestru sy’n gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen hon.
Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig, rhaid i chi:
- fyw yng Nghymru
- cael fisa dilys sy’n rhoi’r hawl i chi weithio yn y DU.
Wrth gofrestru, bydd gofyn i chi hunan-ddatgan eich bod yn bodloni’r gofynion hyn.
Sylwer: Ni allwn ddarparu cyngor mewnfudo. Am gymorth, cysylltwch â:
Dechrau gweithio
Nid yw’r hyfforddiant hwn yn gymhwyster achrededig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
I weithio ym maes gofal cymdeithasol plant, bydd angen i chi gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i sicrhau eich bod yn addas i weithio yn y sector. Mae rhai rolau hefyd yn gofyn am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Am fwy o wybodaeth am hawliau gwaith a nawdd, ewch i wefan y llywodraeth.