Neidio i'r prif gynnwys

Beth yw gofal cymdeithasol?

Bill with Holly his reablement worker smiling

Mae gofal cymdeithasol yn ymwneud â gweithio gyda phobl, adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a'u cefnogi i gadw'n ddiogel, byw'n dda a chyflawni'r hyn sy'n bwysicaf iddyn nhw. Mae'n cefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl a chadw eu cysylltiad â'r bobl, y lleoedd a'r cymunedau sy'n bwysig iddyn nhw.

Efallai y bydd angen cymorth ar bobl am lawer o wahanol resymau, gan gynnwys oedran, anabledd, salwch, cyfrifoldebau gofalu, ynysu neu amgylchiadau bywyd eraill. Gall gofal cymdeithasol gynnwys cymorth ymarferol, cymorth emosiynol, eiriolaeth a chymorth gyda bywyd bob dydd.

Gwyliwch y fideo isod am gyflwyniad i ofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae isdeitlau ar gael yn Gymraeg neu Saesneg drwy ddewis CC ar y fideo.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yw'r gyfraith sy'n cefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bob person. Mae hyn yn golygu y dylid gwrando ar bobl, parchu eu hawliau, a gallu gwneud dewisiadau am eu gofal a'u cefnogaeth eu hunain. Mae'r Ddeddf hefyd yn cydnabod pwysigrwydd teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a chymunedau wrth helpu pobl i fyw'r bywyd maen nhw ei eisiau.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am y Ddeddf. Mae isdeitlau ar gael yn Gymraeg neu Saesneg drwy ddewis CC ar y fideo.

Dysgwch fwy drwy gwblhau e-ddysgu egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.