Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol

Cymorth ar-lein am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Two care home workers in uniform

Am yr hyfforddiant

Ein adnodd Cyflwyniad i ofal cymdeithasol yw eich man cychwyn ar gyfer gyrfa mewn gofal.

Bydd clicio ar y pynciau isod yn rhoi cyfle i chi ddeall sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol a sut i ddod o hyd i'ch gyrfa berffaith, gydag adnoddau, e-ddysgu a gwybodaeth am rolau, hyfforddiant a swyddi.  

Os hoffech ychydig o gymorth ychwanegol, gallwch hefyd fynychu ein gweithdai ymwybyddiaeth Cyflwyniad i ofal cymdeithasol sy'n rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am ddechrau eich gyrfa mewn gofal.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.