Neidio i'r prif gynnwys

Codau Ymarfer Proffesiynol

Mae'r Codau Ymarfer Proffesiynol yn safonau sy'n nodi'r hyn a ddisgwylir gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.

Er mwyn sicrhau bod gweithwyr yng Nghymru yn darparu gofal a chymorth da, mae dau god ymarfer:

Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol (y Cod Gweithwyr)

Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol (y Cod Cyflogwyr)

Disgwylir i bob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru weithio yn ôl y Cod Ymarfer Proffesiynol hyd yn oed os nad oes angen iddyn nhw gofrestru gyda ni ar hyn o bryd. 

Rhaid i bawb sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ddilyn y Cod Gweithwyr.

Clywed gan weithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr

Gwyliwch y fideo isod i glywed sut mae gweithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr yn defnyddio'r codau yn eu hymarfer o ddydd i ddydd, gan helpu i lywio eu gwaith a chadw'r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn ddiogel. Mae isdeitlau ar gael yn Gymraeg neu Saesneg drwy ddewis CC ar y fideo.

Dysgwch fwy drwy gwblhau'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer e-ddysgu Gofal Cymdeithasol