Cliciwch yma i ddysgu mwy
Rhinweddau a gwerthoedd
Eich rhinweddau a'ch gwerthoedd yw'r agweddau, yr ymddygiadau a'r cryfderau personol sy'n eich helpu i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a darparu gofal a chefnogaeth dda. Maen nhw'n siapio sut rydych chi'n trin pobl, yn ymateb i sefyllfaoedd ac yn gweithio gydag eraill.
Pam mae rhinweddau a gwerthoedd yn bwysig?
Mewn gofal cymdeithasol, gall y ffordd rydych chi'n cefnogi rhywun fod yr un mor bwysig â'r tasgau rydych chi'n eu cyflawni.
Mae cael y rhinweddau a'r gwerthoedd cywir yn eich helpu i:
• adeiladu perthnasoedd cadarnhaol
• cefnogi pobl gydag urddas a pharch
• gweithio'n dda fel rhan o dîm
• ymateb yn dawel ac yn sensitif i heriau
• hyrwyddo hawliau, lles ac annibyniaeth pobl,
• creu cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y person a sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn.
Mae'r gwerthoedd hyn wrth wraidd arferion da gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gallwch ddatblygu eich rhinweddau a'ch gwerthoedd trwy
• gwirfoddoli neu ofalu am eraill
• dysgu gan gydweithwyr a rheolwyr
• cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi a dysgu
• gwrando ar adborth
• myfyrio ar eich profiadau a'ch ymarfer
• adeiladu hyder trwy ryngweithiadau bob dydd.
Mae gweithio mewn gofal cymdeithasol yn daith ddysgu barhaus ac mae datblygu eich rhinweddau a'ch gwerthoedd yn rhan bwysig o ddod yn weithiwr medrus a thosturiol.
Efallai bod gennych eisoes y rhinweddau a'r gwerthoedd hyn
Efallai y byddwch eisoes yn defnyddio llawer o'r rhinweddau a'r gwerthoedd hyn yn eich bywyd bob dydd heb sylweddoli hynny.
Mae cefnogi teulu neu ffrindiau, helpu rhywun sy'n cael trafferth, gwrando heb farn neu ddangos amynedd a charedigrwydd i gyd yn enghreifftiau o sgiliau a gwerthoedd sy'n bwysig mewn gofal cymdeithasol.
Dyma rai o'r rhinweddau a'r gwerthoedd allweddol sydd eu hangen mewn gofal cymdeithasol:
• caredigrwydd a thosturi
• amynedd a dealltwriaeth
• gonestrwydd
• cyfathrebu da
• parch at eraill
• dibynadwyedd a chyfrifoldeb
• Empathi a sgiliau gwrando
• agwedd gadarnhaol a gofalgar.
Mae'r rhinweddau a'r gwerthoedd hyn yn helpu pobl sy'n derbyn gofal a chefnogaeth i deimlo'n ddiogel, eu gwerthfawrogi, eu gwrando a'u parchu. Maent yn helpu i adeiladu ymddiriedaeth ac yn cefnogi pobl i fyw'n dda a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am y rhinweddau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i weithio mewn gofal. Mae isdeitlau ar gael yn Gymraeg neu Saesneg drwy ddewis CC ar y fideo.
Dysgwch fwy drwy gwblhau e-ddysgu ar gydbwyso hawliau a chyfrifoldebau