Blas ar: gofal cymdeithasol plant
Hyfforddiant ar-lein am ddim i bobl 16 oed a throsodd sy’n byw yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol plant.

Am yr hyfforddiant
Mae’r rhaglen hyfforddi ddwy awr hon ar-lein wedi’i chynllunio ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu mwy am ofal cymdeithasol plant. Mae’n addas i gynorthwywyr gwaith cymdeithasol di-dâl, gweithwyr gofal preswyl plant, staff cymorth, gwirfoddolwyr, neu unrhyw un sy’n ystyried gyrfa yn y sector.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- beth yw gofal cymdeithasol plant
- pwy mae’n ei gefnogi a pham
- nodau a gwerthoedd gofal cymdeithasol plant
- pryd a sut y gall gwasanaethau cymdeithasol gefnogi teuluoedd
- sut mae gofal cymdeithasol plant yn edrych yn ymarferol
- beth sy’n bwysig i blant a theuluoedd
- lleoliadau a rolau gofal amrywiol
- cyfrifoldebau allweddol yn y sector
- rôl Comisiynydd Plant Cymru
- rhinweddau a gwerthoedd hanfodol ar gyfer gweithio mewn gofal
- deall plant sy’n derbyn gofal a phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
- deddfwriaeth a pholisi perthnasol
- cyfleoedd ar gyfer dysgu pellach
Pan fyddwch yn dechrau gweithio yn y sector, bydd eich cyflogwr hefyd yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth ychwanegol.
Manylion y Cwrs
Cost | Am ddim |
---|---|
Hyd | Dwy awr |
Cyfyngiadau | Rhaid bod yn 16+, yn byw yng Nghymru neu ar ei ffiniau, ac â’r hawl i weithio yn y DU |
Cymhwyste | Dim cymwysterau gofynno |
Lleoliad | Ar-lein a bydd angen mynediad i sain |
Hawl i weithio
Dim ond unigolion sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru ar adeg cofrestru sy’n gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen hon.
Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig, rhaid i chi:
- fyw yng Nghymru
- cael fisa dilys sy’n rhoi’r hawl i chi weithio yn y DU
Wrth gofrestru, bydd gofyn i chi hunan-ddatgan eich bod yn bodloni’r gofynion hyn.
Sylwer: Ni allwn ddarparu cyngor mewnfudo. Am gymorth, cysylltwch â:
Dechrau gweithio
Nid yw’r hyfforddiant hwn yn gymhwyster achrededig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
I weithio ym maes gofal cymdeithasol plant, bydd angen i chi gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i sicrhau eich bod yn addas i weithio yn y sector. Mae rhai rolau hefyd yn gofyn am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Am fwy o wybodaeth am hawliau gwaith a nawdd, ewch i: https://www.gov.uk/