Gweithdai recriwtio a chadw
Cyfres o weithdai am ddim ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol. Bydd y gweithdai hyn yn canolbwyntio ar heriau a datrysiadau problemau recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithasol.

Am y gweithdai
Mae'r gyfres hon o weithdai hanner diwrnod ar-lein rhad ac am ddim wedi'u hanelu at reolwyr recriwtio gofal cymdeithasol neu reolwyr sy'n gyfrifol am gefnogi cadw staff.
Bydd yn cynnwys gweithgareddau a chyfleoedd i gyfrannu, a dysgu ar y cyd.
Sesiwn 1 – dydd Gwener 6 Mehefin, 9:15am-12:30pm
Deall rôl rhinweddau a gwerthoedd a rennir yn y broses recriwtio a chadw.
Bydd y sesiwn hon yn helpu cyflogwyr i nodi a deall yn well:
- ymagwedd seiliedig ar werthoedd
- eu gwerthoedd sefydliadol
- rhinweddau sydd eu hangen i gyd-fynd â'u gwerthoedd
- myfyrio ar bwysigrwydd gallu cyfateb y rhain yn ymarferol
Sesiwn 2 – dydd Gwener 20 Mehefin, 9:15am-1pm
Deall eich cynulleidfa darged a'u hanghenion mewn recriwtio gofal cymdeithasol.
Bydd y sesiwn hon yn helpu cyflogwyr i nodi a deall yn well:
- eich cynulleidfa darged
- eich disgwyliadau eich hun a thuedd anymwybodol
- bylchau cynhwysiant
Sesiwn 3 – dydd Gwener 4 Gorffennaf, 9:15am-12:30pm
Nodi a dileu rhwystrau i gyflogaeth mewn gofal cymdeithasol.
Bydd y sesiwn hon yn helpu cyflogwyr i adnabod a deall yn well:
- anghenion gwahanol eu gweithle
- rhwystrau ar bob cam o'r broses recriwtio a chadw
Sesiwn 4 – dydd Gwener 18 Gorffennaf, 9:15am-1pm
Dull recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd.
Y sesiwn hon yw’r olaf yn y gyfres a bydd defnyddio’r hyn a ddysgwyd o sesiynau blaenorol yn helpu cyflogwyr i gynllunio ar gyfer recriwtio yn y dyfodol sy’n:
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyrraedd a chynnwys cynulleidfa amrywiol
- yn defnyddio ystod o ddulliau asesu ar sail gwerthoedd yn y broses recriwtio
- yn gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael am ddim o becyn cymorth Gofalwn Cymru a chymorth cyflogwyr Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae pob sesiwn yn dilyn ymlaen o’r blaenorol, felly fe’ch cynghorir i’w mynychu er mwyn gwneud y gorau o’r gweithdai.
Manylion y gweithdai
Cost | Am ddim |
Hyd | Hanner dydd |
Cyfyngiadau | Rhaid i chi weithio ym maes recriwtio a/neu gadw mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru |
Cymhwyster | Dim cymwysterau gofynnol |
Lleoliad | Ar-lein ac bydd angen mynediad i fideo a sain |
Rhaglenni hyfforddi
Os oes gennych gwestiynau am ein hyfforddiant neu os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddiant pwrpasol neu hyfforddiant grŵp cymunedol, cysylltwch: