Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol

Hyfforddiant ar-lein am ddim i bobl 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Neilltuwch eich lle
Liesl who completed the Introduction to social care training

Am yr hyfforddiant

Mae cyflwyniad i ofal cymdeithasol yn rhoi trosolwg o weithio ym maes gofal cymdeithasol, gan gynnwys:

  • rolau gofal cymdeithasol
  • rhinweddau a gwerthoedd
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a thegwch
  • hyrwyddo annibyniaeth
  • cyfathrebu
  • dyletswydd gofal
  • cod proffesiynol ymarfer
  • caniatâd a chyfrinachedd
  • ymagwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • gwydnwch a lles
  • diogelu

Pan fyddwch yn dechrau gweithio yn y sector, byddwch hefyd yn cael cymorth a hyfforddiant ychwanegol gan eich cyflogwr.

Manylion y cwrs

CostAm ddim
HydTri diwrnod rhwng 9:45am - 2:30pm neu 5pm - 8pm
CyfyngiadauRhaid i chi fod 16+ ac yn byw yng Nghymru
CymhwysterDim cymwysterau gofynnol
LleoliadAr-lein ac bydd angen mynediad i fideo a sain
"Dysgais lawer am ofal cymdeithasol ar y cwrs hwn, byddwn yn ei argymell 100% i unrhyw un sydd â diddordeb. Tîm cyfeillgar a chefnogol."

Pethau i'w gwybod

Nid yw'r rhaglen hon yn gymhwyster achrededig mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth am noddwyr a hawliau gwaith,ewch i Lywodraeth Cymru.

I weithio ym maes gofal cymdeithasol, bydd angen i chi gael rhai gwiriadau i sicrhau eich bod yn addas i weithio yn y sector. Byddwn yn eich helpu gyda'r rhain. Bydd hyn yn cynnwys rhywbeth o'r enw gwiriad System Datgelu a Gwahardd (DBS) i sicrhau eich bod yn gallu gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae rhai rolau hefyd yn gofyn i chi gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae rhai rolau hefyd yn gofyn am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cynllun cyfweliad gwarantedig

Ar ddiwedd y rhaglen, bydd gennych fynediad i'n cynllun cyfweliad gwarantedig sy'n rhoi'r cyfle i chi drefnu cyfweliad yn uniongyrchol â chyflogwyr sydd wedi cofrestru ar y cynllun. Bydd angen i chi hidlo'r cyfleoedd hyn ar y porthol swyddi. Cofiwch ddarllen yr hysbyseb yn ofalus i sicrhau eich bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol i wneud cais.
Mae'r rhaglen hon wedi newid fy mywyd; mae’r cynllun cyfweliad wedi arwain at swydd wych.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.

Os oes gennych gwestiynau am ein rhaglenni uchod neu os oes gennych ddiddordeb mewn rhaglen benodol neu raglen grŵp cymunedol, cysylltwch â ni: