Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch y bydd ein swyddfa ar gau o ddydd Gwener 20 Rhagfyr tan ddydd Llun 6 Ionawr.

Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn gallu delio ag unrhyw ymholiadau. Diolch am eich dealltwriaeth.

Rhaglen gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol

Hyfforddiant ar-lein am ddim i bobl sy’n byw yng Nghymru sy’n gwirfoddoli ar hyn o bryd neu sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn y sector gofal cymdeithasol.

Neilltuwch eich lle

Am yr hyfforddiant

Cynhelir y sesiwn hyfforddi  hon ar-lein ar 29 Ionawr 2025 am 9:30am - 2:00pm ac mae wedi’i hanelu at unrhyw un sy’n gwirfoddoli ar hyn o bryd neu sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn y sector gofal cymdeithasol.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys: 

  • gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • rolau gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol
  • manteision gwirfoddoli mewn gofal
  • beth allai effeithio ar eich gallu neu ddewis i wirfoddoli mewn gofal cymdeithasol
  • sut i gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli
  • llwybrau gyrfa mewn gofal

Manylion y cwrs

CostAm ddim
HydHanner dydd
CyfyngiadauRhaid i chi fod yn 16+, yn byw yng Nghymru neu ar ei ffiniau a bod gennych yr hawl i weithio yn y DU
CymhwysterDim cymwysterau gofynnol
LleoliadAr-lein ac bydd angen mynediad i sain

Gwirfoddoli

Eisiau ennill sgiliau newydd a rhywfaint o brofiad gwaith?