Kim Ombler – Cyfarwyddwr y Cartref Gofal
Daeth Kim a Helen, ei chwaer, yn gyd-gyfarwyddwyr Glan Rhos yn 2000 ar ôl cymryd yr awenau gan eu rhieni, a agorodd y cartref yn 1989.
“Mae cymaint o gyfleoedd i weithio ym maes gofal. Mae gynnon ni staff swyddfa, glanhawyr, staff cegin, nyrsys, staff dydd/nos, staff cynnal a chadw, cydlynwyr gweithgareddau a mwy."
“Ma’ ‘na rywbeth i bawb, beth bynnag yw’ch set sgiliau, ac mae llwyth o gyfleoedd hyfforddiant sy’n gallu bod yn hyblyg i siwtio’r unigolyn.
“Mae gan Ynys Môn gymuned siaradwyr Cymraeg cryf, felly ‘dan ni bob amser yn gwneud yn siŵr bod aelodau staff ar y rota sy’n gallu gofalu am breswylwyr yn eu hiaith ddewisol. Mae’n golygu ein bod ni’n gallu cynnig gwasanaeth hollol ddwyieithog yma yng Nglan Rhos.
“Galwedigaeth yw gweithio ym maes gofal. Mae rhoi gofal i rywun a gwybod eich bod chi ‘di gwneud gwahaniaeth i’w fywyd yn rhoi synnwyr o bwrpas i chi. Mae’n arbennig.
“Meddyliwch i chi’ch hun – pa fath o ofal fyddech chi eisiau i’ch mam, dad, nain, taid ei gael? ‘Dan ni yma i’r preswylwyr tan y diwedd. ‘Swn i’n newid o? Byth.” I rywun sy’n derbyn gofal, mae defnyddio’r Gymraeg yn fwy na geiriau.