Neidio i'r prif gynnwys

Rhaglen brentisiaethau'r Mudiad Meithrin

Mae Delyth Evans yn gyfrifol am dair o feithrinfeydd y Mudiad Meithrin ledled Cymru, gan gynnwys Llangefni, Aberystwyth a Phontypridd. Rhyngddyn nhw, mae’r meithrinfeydd hyn yn cyflogi oddeutu 80 aelod o staff a 400 o blant rhwng wyth wythnos oed a 12 oed sy’n derbyn gofal dydd llawn gan y gwasanaethau hyn.

Pam cynnig rhaglen brentisiaeth?

Mae’n anodd recriwtio staff newydd ac rydyn ni’n gwybod bod prinder staff ledled y sector sy’n ei gwneud hi hyd yn oed yn anoddach i ni fel Meithrinfa Gymraeg i recriwtio staff cymwys sy’n siarad Cymraeg.

Dechreuodd y cynllun prentisiaeth Mudiad Meithrin yn 2019. Mae’r prentisiaethau ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau gyrfa ym maes gofal plant. Gobeithio y bydd y cyfle hwn yn denu pobl i’r sector, ynghyd â chadw myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn y sector cyfrwng Cymraeg.

Faint o brentisiaid sydd wedi cwblhau’r rhaglen?

Ar hyn o bryd mae gennym bedwar myfyriwr rhwng 18 a 45 oed sy’n gweithio gyda ni yn ein meithrinfeydd dydd Cymraeg. Maen nhw i gyd yn cyflawni eu hastudiaethau Lefel 3 ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Rydyn ni eisoes wedi cynnig swyddi llawn amser i dri o’n pedwar prentis ar ôl iddyn nhw gymhwyso.

"Rydw i wedi cael profiad positif a chefnogol gan fy nhiwtoriaid, fy nghydweithwyr a’m lleoliad. Mae wedi bod yn ffordd ragorol o ennill profiad gwaith a chael cymhwyster ar yr un pryd."
Gwenno Lewis, Prentis ym Meithrinfa Camau Bach
"Rydw i wedi mwynhau’r cynllun prentisiaeth hyd yma. Ar y dechrau doeddwn i ddim yn gwybod a fyddwn i’n ei fwynhau, ond rydw i wedi mwynhau pob munud. Mae wedi rhoi’r cyfle i mi gyfarfod a gweithio gyda phobl hyfryd.
Mae’r brentisiaeth wedi rhoi profiad ymarferol i mi o weithio gyda phlant ac wedi rhoi sicrwydd i mi ynglŷn â’m llwybr gyrfa."
Jess Williams, Prentis ym Meithrinfa Medra

Beth yw eich proses recriwtio?

Mae’r rolau prentisiaethau yn cael eu hysbysebu drwy wefan Mudiad Meithrin. Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar gyfer y brentisiaeth cyn cael eu gwahodd i gyfweliad. Os ydyn nhw’n llwyddiannus, gellir eu cyfeirio atom ni, at Gylch Meithrin neu ysgol i gyflawni’r rôl brentisiaeth. 

Os nad oes ganddyn nhw gymwysterau TGAU ar lefel ofynnol mewn mathemateg ac iaith, fe allan nhw gael help gyda hyn gan eu tiwtor drwy’r brentisiaeth. 

Beth yw manteision dilyn prentisiaeth?

Gall prentisiaid hyfforddi wrth weithio gyda ni ac mae’n ofynnol iddyn nhw weithio o leiaf 16 awr yr wythnos fel rhan o’r contract hyfforddiant. Gallant hefyd weithio oriau ychwanegol ac ennill cyflog wrth astudio. 

Rydym yn cynnig buddion cyflogaeth, oriau hyblyg, a mentora i’n holl staff, gan gynnwys ein prentisiaid. Pan fo unigolion yn cymhwyso, rydyn ni’n gwneud ein gorau i gynnig gwaith iddyn nhw. 

Fel cyflogwr, rydyn ni’n pwysleisio pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus. Rydyn ni’n cynnig hyfforddiant ychwanegol fel cymorth cyntaf, hylendid bwyd, diogelu plant a hyfforddiant ar bethau fel adeiladu ffau, gwaith coed, trochi iaith a llawer mwy drwy Academi, sef porth hyfforddiant y Mudiad Meithrin. 

Maen nhw’n cael y cyfle i weithio law yn llaw gyda staff cymwys a phrofiadol. Maen nhw’n cael gweld arferion da ym maes gofal plant a manteision dysgu drwy chwarae gyda phlant o bob oed. Maen nhw’n dysgu ac yn deall pwysigrwydd trefn i blant a’r anghenion gofal sy’n ofynnol. 

Maen nhw hefyd yn dysgu am bwysigrwydd polisïau, gweithdrefnau a rheoliadau. Maen nhw’n rhan o’r tîm ac yn cynnal sesiynau un i un rheolaidd gyda chyfaill yn y gwaith. 

Os ydyn nhw am ddysgu ymhellach a datblygu eu gyrfa, gallant gael mynediad at lefelau pedwar a phump y Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Rheoli i fod yn Ddirprwy Reolwr neu’n Rheolwr. Gallant hefyd gael mynediad at gyrsiau eraill amrywiol drwy brifysgolion ar lefel gradd. 

Pam cwblhau prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg?

Rydyn ni’n cynnig cymorth gyda’r Gymraeg drwy gynlluniau “Croesi’r Bont” a “Camau” y Mudiad Meithrin os nad ydyn nhw’n siaradwyr Cymraeg hyderus. 

Bydd gweithio mewn amgylchedd Cymraeg yn eu helpu i fagu hyder os nad ydyn nhw’n siaradwyr Cymraeg rhugl eu hunain. Bydd bod yn ddwyieithog o fudd mawr iddyn nhw wrth ddilyn gyrfa yng Nghymru yn y dyfodol.