Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

20 Gorffennaf 2020

Addysgu iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig

Mae Karen Llewellyn yn ddarlithydd gofal plant ac iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a hefyd yn Llysgennad Gofalwn Cymru.

Fe wnaethom ni ofyn i Karen sut mae addysgu yn ystod yr amseroedd digynsail hyn wedi bod a sut mae ei myfyrwyr yn addasu wrth iddyn nhw ddod i ddiwedd eu cyrsiau a gwneud cais am leoedd mewn prifysgol….

 

Sut mae dy rôl wedi newid ers y pandemig coronafeirws?

Mae wedi bod yn anodd i ni i gyd. Rhan o fy rôl fel darlithydd yw dal ati i gefnogi myfyrwyr i ennill eu cymwysterau llawn. Mae wedi bod yn bwysig creu a chynnal rhwydwaith cadarnhaol a chefnogol ar gyfer ein myfyrwyr fel y gallan nhw gyrraedd eu nod yn ystod yr adegau ansicr hyn.

 

Sut rwyt ti wedi dal ati gyda’r gwersi?
Gower College Swansea students

Rydym ni wedi dal ati i ymgysylltu trwy’r cyfnod, gan gymryd rhan mewn gwersi rhithwir o gartref. Dwi wedi cynnal sesiynau un-i-un rheolaidd ynghyd â darparu nodiadau canllaw cynhwysfawr i unigolion fel y gallan nhw gwblhau eu haseiniadau yn eu hamser eu hunain.

 

Beth yw elfennau anoddaf addysgu o gartref?

Dwi’n credu mai elfen anoddaf addysg myfyrwyr yn ystod y pandemig yw cefnogi’r rhai sydd angen eu haddysgu wyneb yn wyneb. Dwi hefyd yn hoffi trefnu gweithgareddau ymarferol gan eu bod yn ffordd i mi weld bod y myfyrwyr yn deall eu gwaith. Mae wedi bod yn gyfnod anodd a bu’n rhaid i mi addasu fy ngwaith yn fyrfyfyr.

 

Gower College Swansea students

Beth mae’r myfyrwyr sydd wedi dod i ddiwedd eu cyrsiau yn gobeithio ei wneud nawr?

Ar hyn o bryd mae 46 o fyfyrwyr ar ail flwyddyn y cwrs Diploma Lefel 3 Estynedig BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dwi wedi bod yn sicrhau’r myfyrwyr y byddan nhw’n gallu pasio’r cwrs hwn ac i beidio â phoeni am y sefyllfa sydd ohoni.

Mae canran uchel o fyfyrwyr wedi gwneud cais ac wedi’u derbyn gan brifysgolion amrywiol ledled y wlad, gan ddewis cyrsiau fel nyrsio oedolion a phediatrig, bydwreigiaeth ac iechyd meddwl. Mae rhai myfyrwyr wedi ceisio cael gwaith llawn amser hefyd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r myfyrwyr hyn yn arwydd o’r hyn y gellir ei gyflawni.

 

Sut wyt ti wedi bod yn paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi?

Fel sawl sefydliad, dydyn ni ddim wedi cael cadarnhad pendant o sut beth fydd addysg ym mis Medi. Fodd bynnag, mae pob myfyriwr yn cael sicrwydd parhaus y byddan nhw’n dal i gael eu cefnogi pob ffordd sy’n bosibl o fewn tîm Coleg Gŵyr Abertawe.

 

Gallwch wylio fideo byr yn dangos rôl Karen yma:

Gwyliwch yr Astudiaeth Achos – Karen Llewellyn, Darlithydd Blynyddoedd Cynnar.

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.