Neidio i'r prif gynnwys
Gofal cymdeithasol

03 Mehefin 2024

A allai fod yn chi?

Group of young people from residential care home who have created a word cloud.

Yn ddiweddar, cyfarfu Gofalwn Cymru â phobl ifanc a gweithwyr cymorth o gartref gofal preswyl i ddeall y gwahaniaeth gwirioneddol y mae'n ei wneud i fywydau'r bobl ifanc.

Rhwng 3 Mehefin a 21 Mehefin, byddwn yn rhannu eu holl straeon ac yn dysgu am yr hyn sy'n gwneud gweithiwr cymorth preswyl da.

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal ac eisiau gwybod mwy am ddod yn weithiwr gofal preswyl neu'r cyfleoedd sydd ar gael, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol ac ewch i'n tudalen gartref preswyl i blant.


Yn ddiweddar, cyfarfu Gofalwn Cymru â phobl ifanc a gweith

Stori person ifanc

Rwy’n berson ifanc sydd mewn gofal ers tua wyth mlynedd.

Roeddwn i’n dawel ac yn swil iawn pan symudais i fy nghartref gofal cyntaf. Roedd popeth yn anghyfarwydd ac yn ormod i mi.

Fe wnaeth fy ngofalwr fy arwain i fy ystafell a fy rhoi i ar ben ffordd, ond er bod gen i fy mhethau i gyd, a bod fy ystafell yn braf, doeddwn i ddim yn teimlo’n gartrefol.

Roeddwn i’n teimlo’n bryderus ac yn swil, ac roedd yn well gen i aros yn fy ystafell a chadw i mi fy hun.

Dros amser, ceisiodd fy ngofalwr fy annog i fwyta prydau gyda’r plant eraill ac ymuno mewn gweithgareddau grŵp, ond roeddwn i eisiau bod ar fy mhen fy hun yn niogelwch fy ystafell. Bu’n meddwl am lawer o ffyrdd gwahanol i geisio fy annog i gymryd rhan ym mywyd y cartref, ac i fod yn fwy cymdeithasol gyda’r grŵp.

Roedd hi mor amyneddgar a chymerodd yr amser i ddod i fy adnabod i a fy niddordebau. Rhoddodd amser i mi ymgartrefu ac i deimlo’n gyfforddus yn fy nghartref newydd.

Roedd fy ngofalwr yn gwybod fy mod i’n mwynhau cerddoriaeth a bod gen i lawer o restrau chwarae. Awgrymodd un noson ein bod ni’n gadael fy ystafell i fynd am dro yn y car cyn swper, gan roi fy rhestrau chwarae ymlaen a chanu fy hoff ganeuon i gyd.

Byddai’n canu’r caneuon ac yn fy annog i ganu gyda hi. Roedd yn gwneud i mi chwerthin yn braf, ac yn gwneud i mi anghofio pa mor bryderus oeddwn i’n teimlo. Fe wnaethon ni hyn bob nos am wythnosau, a dyna oedd uchafbwynt fy niwrnod.

Roedd mynd am dro yn y car yn fy ngalluogi i anghofio am fy mhryderon, ac roedd yn gyfle i ni feithrin perthynas â’n gilydd.

O wythnos i wythnos, bu’n magu fy hyder ac yn fy annog i dreulio mwy a mwy o amser allan o fy ystafell, a rhannu fy nghariad at gerddoriaeth gyda’r plant eraill. Gwrando ar gerddoriaeth oedden ni yn y car i ddechrau, ond wrth i amser fynd heibio ac wrth i mi ddod i’w hadnabod yn well, roeddwn i’n defnyddio’r amser i siarad ac i drafod fy mhryderon.

Bu’n gweithio’n galed i greu ymddiriedaeth rhwng y ddau ohonom ni, ac i fagu fy hyder.

Nawr, rwy’n treulio llawer o amser allan o fy ystafell, yn cyd-dynnu’n dda â’r bobl rwy’n byw gyda nhw ac mae bywyd yn llawer iawn gwell. Rwy’n teimlo’n hyderus ac yn ddiogel.

Picture that says the word Saff and safe to represent how a young person feels in residential care.
llun person ifanc

Sian's story

Bu Sian yn gweithio mewn ffatrïoedd ac fel achubwr bywydau, cyn dod o hyd i’w gyrfa ddelfrydol yn gweithio gyda phlant yn y sector gofal.

Dechrau arni yn y diwydiant

Nid yw Sian, Rheolwr Cartref Preswyl i Blant o Wrecsam, wedi dilyn y llwybr traddodiadol i’r sector gofal, a gadawodd yr ysgol gydag un cymhwyster TGAU. Fodd bynnag, roedd Sian yn gwybod ei bod yn teimlo’n angerddol dros wneud gwahaniaeth ym mywydau plant mewn gofal.

Dilynodd Sian ei brwdfrydedd, a dechreuodd yn y maes fel Swyddog Plant Preswyl (Gweithiwr Cymdeithasol). Dros y ddau degawd diwethaf, mae wedi gweithio ei ffordd drwy’r rhengoedd, ac mae hi bellach yn rheolwr ar ôl ennill ei chymhwyster lefel 5.

Sian, Residential Child Care Manager sitting on a yellow chair smiling to camera
Dywedodd Sian:

“Doeddwn i erioed yn dda iawn yn yr ysgol, a doeddwn i ddim yn mwynhau amgylchedd strwythuredig yr ystafell ddosbarth. Er hynny, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl a gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc.

“Penderfynais wneud cais am swydd fel Swyddog Preswyl i gael profiad ymarferol, ac roeddwn yn gwybod ar unwaith mai hon oedd y swydd i mi. Dywedais wrth fy hun mai dyma roeddwn i eisiau ei wneud am weddill fy mywyd.”

Codi drwy’r rhengoedd

Bu Sian yn gweithio yn ei sefydliad cyntaf am 20 mlynedd a mwy, ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio fel rheolwr ers dros 10 mlynedd, gan ganolbwyntio ar drawma ac iechyd meddwl ym maes gofal preswyl plant.

Dywedodd Sian:

“I ddechrau, doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i eisiau bod yn rheolwr, oherwydd roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n colli’r cysylltiad dyddiol â’r plant. Fodd bynnag, buan iawn y sylweddolais y gallwn ddechrau gwneud newidiadau cadarnhaol er gwell, ac roedd yn rhoi mwy o gyfle i mi gyflogi’r bobl orau i weithio gyda’n plant.

“Roeddwn i’n gwybod pa mor bwysig oedd hyn, gan fy mod i wedi tyfu i fyny yng nghwmni’r plant ac wedi cael profiad uniongyrchol o’r gwerthoedd sydd eu hangen i fod yn ofalwr da.”

Gwneud gwahaniaeth

Wrth recriwtio staff i'w chartrefi, mae Sian yn defnyddio’r meddylfryd ‘plentyn yn gyntaf’, ac mae’n cynnwys y preswylwyr ifanc yn y broses.

Aeth Sian yn ei blaen:

“Yn ein cartrefi, rhaid i’r staff ymgorffori gwerthoedd gweithiwr gofal da – synnwyr digrifwch, gonestrwydd, empathi a gallu uniaethu. Does dim modd dysgu’r rhinweddau hyn, felly rwy’n cadw’r cyfweliad yn anffurfiol ac yn cynnwys y plant drwy ofyn iddyn nhw ofyn cwestiynau sy’n bwysig iddyn nhw.

“Drwy hyn, rydyn ni’n cael gweld sut byddai’r ymgeiswyr yn ymateb mewn sefyllfa go iawn a gallwn ni gael cipolwg go iawn ar wir natur y person.”

Dyfodol disglair

Yn ystod ei chyfnod yn y maes, mae Sian wedi aros yn ffyddlon i ofal preswyl plant, ac mae wedi agor dau gartref newydd hyd yma, gyda thri arall ar y gweill.

Mae hi hefyd yn cynnal hyfforddiant trawma plant ac iechyd meddwl, ac mae’n defnyddio ei chysylltiadau agos â grwpiau cymunedol ac ysgolion lleol i’w helpu i recriwtio staff newydd.


Dywedodd Sian: “Rwy’n falch o fy nghynnydd a’r hyn rwyf wedi’i gyflawni, ond dydy hyn ddim i’w gymharu â chyflawniadau’r bobl ifanc rydyn ni’n delio â nhw bob dydd. Rhan gorau o’r swydd yw gwylio’r plant yn cyflawni cerrig milltir, waeth pa mor fawr neu fach, a’u bod yn teimlo’n hapus, yn fodlon ac yn ddiogel bob dydd.”

“Nid yw gofal preswyl yn swydd hawdd, nac yn swydd 9 tan 5, ond os yw eich calon yn y gwaith dyma’r swydd orau yn y byd – rydych chi’n gwybod eich bod chi’n gwneud gwahaniaeth go iawn”.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.