Adnodd ar-lein newydd yn helpu ymgeiswyr swyddi gofal cymdeithasol i sefyll ben ag yswydd yn uwch nag eraill
Heddiw (30 Tachwedd) lansiwyd adnodd cenedlaethol newydd yng Nghymru ar wefan Gofalwn.Cymru. Mae’r adnodd yn helpu ceiswyr gwaith i wella eu cyflogadwyedd yn ogystal â helpu cyflogwyr i nodi pobl sydd fwyaf addas ar gyfer gweithio mewn rolau gofal cymdeithasol.
Mae’r adnodd newydd ar gael ar wefan Gofalwn Cymru (Gofalwn.Cymru), ymgyrch sy’n ceisio denu mwy na 20,000 o bobl ychwanegol i weithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant dros y degawd nesaf.
Mae’r adnodd yn cynnwys adran asesu lle gall yr ymgeisydd wylio fideos o wahanol rolau mewn gofal cymdeithasol ac ateb cwestiynau ynghylch sut y byddent yn delio â’r sefyllfaoedd sy’n codi. Mae hyn yn rhoi cyfle uniongyrchol i ddarpar ymgeiswyr weld a yw’r swydd yn iawn iddyn nhw. Gall ymgeiswyr addas am rolau mewn gofal cymdeithasol ddod o hyd i’r adnodd dysgu ar borth swyddi Gofalwn Cymru.
Ar ôl ei gwblhau, rhoddir dogfen i ymgeiswyr y gellir ei dangos i gyflogwyr i’w helpu i sefyll ben ac ysgwyddau yn uwch nag ymgeiswyr eraill.
Mae’r SYG yn adrodd bod 730,000 yn llai o bobl yn y DU wedi derbyn tâl ym mis Gorffennaf nag ym mis Mawrth. Mae Gofalwn Cymru yn gobeithio, trwy lansio’r adnodd dysgu ar-lein newydd a’i borth swyddi wedi’i ddiweddaru, y bydd yn haws i’r bobl iawn gael eu cysylltu â’r cyflogwr iawn.
Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Gyda chymaint o bobl yn chwilio am waith ar hyn o bryd, roeddem am ddarparu rhywbeth a allai helpu darpar ymgeiswyr i ddeall a yw gofal yn iawn ar eu cyfer, ac os felly, eu helpu i sefyll ben ag ysgwyddau yn uwch na’r dorf.
“Mae gwneud cais am rôl mewn gofal cymdeithasol yn wych ac mae angen yr holl gefnogaeth y gallwn ei chael, ond mae trosiant uchel o staff yn gwneud pethau’n arbennig o anodd – nid yn unig i gyflogwyr sydd wedyn angen dod o hyd i rywun arall, ond hefyd y bobl maen nhw’n eu cefnogi. Rydyn ni eisiau helpu i roi mwy o fewnwelediad i’r rolau pwysig hyn, ac mae’r adnodd dysgu ar-lein newydd yn ein helpu i wneud hynny. ”
Yn ogystal â helpu unigolion i hybu eu cyflogadwyedd, mae’r adnodd hefyd yn helpu cyflogwyr i ddod o hyd i’r bobl iawn ar gyfer y rolau a all fod yn arbennig o anodd recriwtio ar eu cyfer. Mae’r rolau hynny’n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol a Nyrsys Gofal Cymdeithasol a Gweithwyr Gofal Cartref, fel Karima Alghmed.
Mae Karima yn Weithiwr Gofal Cartref sydd wedi bod yn gweithio trwy gydol y pandemig. Gan ymddangos yn yr hysbyseb deledu sy’n lansio fel rhan o’r ymgyrch, dywedodd: “Rydw i wedi bod yn gweithio mewn gofal ers dros 15 mlynedd. Byddai adnodd dysgu fel hwn wedi fy helpu i ddechrau. Mae gofal mor amrywiol a gwerth chweil, mae’n wych gweld teclyn newydd sbon sy’n ennyn diddordeb pobl ac yn eu helpu i ddeall yn union beth rydyn ni’n ei wneud. ”
Dywedodd James Dwyer, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Pineshield: “Ein cenhadaeth yw rhoi anghenion y defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd yr hyn a wnawn, ond ni allwn wneud hynny os nad oes gennym y staff cywir. Bob tro rydyn ni’n recriwtio, rydyn ni’n darganfod nad yw cymaint o ymgeiswyr yn iawn am y rôl.
“Yn ddiweddar, ar gyfer un swydd Gweithiwr Gofal Cartref, cawsom 69 nifer o geisiadau. Trwy gwblhau’r adnodd ar-lein, byddai’n dangos ymroddiad unigolyn. Bydd yn helpu’r bobl iawn i serennu.”
Am yr wythnosau nesaf, mae ymgyrch Gofalwn Cymru yn canolbwyntio ar yr angen am fwy o Weithwyr Gofal Cartref, Gweithwyr Cymdeithasol a Nyrsys Gofal Cymdeithasol ac fe’i cefnogir gan hysbyseb deledu genedlaethol. Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan ymdrechion arwrol gweithwyr gofal yn ystod y pandemig ac yn meddwl bod gennych chi’r hyn sydd ei angen i weithio mewn gofal, ymwelwch â Gofalwn.Cymru/swyddi.