Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

17 Mawrth 2021

Annog gofalwyr i ddod yn llysgennad a helpu i ysbrydoli eraill

Mae ymgyrch Gofalwn Cymru yn galw ar weithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant angerddol i ddod yn llysgenhadon dros y sector, gan rannu eu profiadau i ysgogi ac ysbrydoli eraill i ystyried gyrfa mewn gofal.

Rôl Llysgennad Gofalwn Cymru yw codi proffil y sector gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.

Maent yn helpu i addysgu pobl am y gwahanol opsiynau gyrfa a chyfleoedd dilyniant sydd ar gael trwy gyflwyniadau i fyfyrwyr ysgol neu goleg, sgyrsiau neu drafodaethau anffurfiol a mynychu ffeiriau gyrfa neu swyddi, digwyddiadau neu gynadleddau.

Gall llysgenhadon fod ar unrhyw lefel gyrfa ac mae’r rôl yn wirfoddol. Gall helpu i ddatblygu hyder a sgiliau ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a bod yn ychwanegiad cadarnhaol at CVs.

Yn ogystal â chefnogi gweithiwr, mae yna lawer o fuddion i sefydliadau sy’n cyflogi Llysgennad Gofalwn Cymru, megis datblygu ac ysgogi staff, gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygiad gweithlu’r dyfodol a chodi proffil y sefydliad fel cyflogwr o safon.

Dywedodd Peter Hornyik, Gweithiwr Gofal Plant Preswyl ac un o’r Llysgenhadon Gofalwn Cymru cyfredol: “Rwyf wedi bod yn llysgennad ers blwyddyn bellach oherwydd fy mod yn angerddol am y sector. Mae fy rôl yn cynnwys mynd i ysgolion yn bersonol neu’n rhithiol a chyflwyno sgyrsiau i’r bobl ifanc i’w cyffroi nhw am yrfa mewn gofal yn y dyfodol.”

Os ydych chi’n adnabod gweithiwr gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n serennu, gallwch eu henwebu i ddod yn llysgennad trwy ebostio llysgenhadon@gofalcymdeithasol.cymru neu ymweld â Gofalwn Cymru i gael mwy o wybodaeth.

Os ydych chi’n ysgol, coleg neu ganolfan waith a bod gennych ddiddordeb mewn cael Llysgennad Gofalwn Cymru i ymweld â’ch sefydliad, cysylltwch â ni ar llysgenhadon@gofalcymdeithasol.cymru

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.