Camu i mewn i Ofal Cymdeithasol gyda City & Guilds
Mae Gofalwn Cymru wedi ymuno â City & Guilds i gefnogi pobl sy’n chwilio am waith yn y sector gofal cymdeithasol.
Yn, ddiweddar, mae City & Guilds wedi lansio cwrs ar-lein, Camu i Ofal Cymdeithasol, i hyrwyddo’r sector gofal cymdeithasol a’r swyddi a’r cyfleoedd dilyniant y gall eu cynnig.
Pwy yw City & Guilds?
Mae City & Guilds yn arweinydd byd-eang ym maes datblygu sgiliau, gan gefnogi dros bedair miliwn o bobl bob blwyddyn i ddatblygu sgiliau sy’n eu helpu i mewn i swydd, symud ymlaen yn y swydd honno ac i baratoi ar gyfer eu swydd nesaf.
Beth yw Camu i Ofal Cymdeithasol?
Ar y cwrs Camu i Ofal Cymdeithasol, gallwch archwilio a yw gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn iawn i chi a dysgu am y sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y sector. Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn derbyn bathodyn digidol gan City & Guilds y gallwch ei ddefnyddio i brofi eich hyfforddiant ac arddangos eich sgiliau.
Mae City & Guilds yn annog pawb sydd â diddordeb mewn gofalu am eraill i ddilyn y cwrs i ddarganfod a allai gweithio ym maes gofal cymdeithasol fod ar eu cyfer. Ar ôl i rywun gwblhau’r cwrs, gallant wedyn ddefnyddio Porthol Swyddi Gofalwn Cymru i chwilio am gyfleoedd gwaith a chael gafael ar gymorth chwilio am swydd.
Sut i ymgeisio?
I wneud cais am y cwrs Camu i Ofal Cymdeithasol, ewch i www.futurelearn.com/courses/step-into-social-care
Y ffi am y cwrs yw £29.