Cardiau Gyrfa Gofalwn Cymru
Er mwyn helpu i arddangos y rolau gofal amrywiol sydd ar gael yn gweithio gyda phlant ac oedolion yng Nghymru, rydym yn lansio Cardiau Gyrfa Gofalwn Cymru.
Mae ein Cardiau Gyrfa yn darparu gwybodaeth am rolau mewn gofal, gan weithio gyda phlant ac oedolion yng Nghymru. Mae gan bob cerdyn god QR unigryw sy’n cysylltu â mwy o wybodaeth ar ein gwefan, gan gynnwys fideos o bobl go iawn yn rhannu eu profiad o weithio yn y swyddi. Mae’r cardiau hefyd yn cynnwys awgrymiadau dysgu pellach a phynciau trafod i ehangu dysgu ac ymwybyddiaeth o’r sectorau.
Gallwch lawr lwytho fersiwn y gellir ei hargraffu o’r cardiau yma:
Cardiau Gyrfa Gofalwn Cymru argraffadwy
Rydym yn gweithio’n galed i greu fersiwn ddigidol o’r cardiau ac rydym yn gobeithio y bydd ar gael ar ein gwefan yn ddiweddarach eleni.
Os hoffech gael copi corfforol o Gardiau Gyrfa Gofalwn Cymru ar gyfer eich ysgol neu’ch lleoliad, cysylltwch â ni.