Cwrdd ag Emma, y bardd y tu ôl i'n hysbyseb deledu
Mae ein hysbyseb deledu ddiweddar yn cynnwys llais Emma, yn darllen ei cherdd “Just a Carer”; cerdd yr ysgrifennodd ar gyfer rhaglen Rhod Gilbert’s Work Experience, a ffilmiwyd yng nghartref gofal College Fields y Barri.
Gofynnom iddi sut brofiad yw bod yn rhan o’n hymgyrch…
Sut ydych chi’n teimlo am fod yn rhan o’n hysbyseb deledu?
Rwy’n teimlo anrhydedd mawr bod fy ngherdd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hysbyseb deledu Gofalwn Cymru. Rwy’n teimlo ychydig yn llethol ac mewn sioc bod fy ngherdd wedi ennyn cymaint o ddiddordeb.
Mae’n rhoi balchder mawr i mi weld a chlywed bod fy ngherdd wedi atseinio a chyffwrdd cymaint o bobl. Mae’n cynhesu’r galon ac yn fy ngwneud yn falch o alw fy hun yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Beth yw eich barn chi am yr hysbyseb deledu?
Mae’n tynnu sylw at y gwaith anhygoel y mae’r sector gofal yn ei wneud i sicrhau fod preswylwyr yn hapus ac i helpu pobl i fyw’n dda yn y gymuned – boed hynny yn eu cartref eu hunain neu mewn cartref gofal.
Rwy’n gobeithio ei fod yn tynnu sylw nad yw bywyd yn dod i ben pan ddewch chi i mewn i gartref gofal, dim ond pennod newydd yw hi i ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl.
Sut brofiad yw gweithio mewn gofal?
Rwy’n caru fy swydd ac mae mor werth chweil. Mae’n fraint gallu gofalu am rywun arall, gofalu amdanyn nhw pan fydd angen help a chefnogaeth arnyn nhw. Gobeithio ein bod ni wedi helpu i daflu ychydig o olau ar ba mor rhyfeddol gall swydd mewn gofal fod. Rwy’n annog pawb sydd wedi meddwl am weithio mewn gofal i roi cynnig arni – efallai y bydd y swydd orau a gawsoch erioed!